Newyddion

Cardiff Taxi strike

Ymestyn oriau agor Canolfan Gyswllt Traveline Cymru tan 11pm oherwydd streic tacsis Caerdydd

15 Ebrill 2016

Mae Canolfan Gyswllt Traveline Cymru yn ymestyn ei horiau agor tan 11pm ar ddydd Gwener 15 Ebrill a dydd Sadwrn 16 Ebrill oherwydd y streic a gynllunnir gan dacsis Caerdydd. Disgwylir i’r streic gael ei chynnal rhwng hanner nos a 2am ar ddydd Gwener 15 Ebrill a dydd Sadwrn 16 Ebrill.

Gall cwsmeriaid ffonio Traveline Cymru ar 0300 200 22 33 am bris galwad leol rhwng 7am ac 11pm ar y diwrnodau hyn gydag unrhyw ymholiadau sydd ganddynt ynghylch streic y tacsis.

Yn ogystal, gall cwsmeriaid ddefnyddio’r cyfleuster chwilio am amserlenni a’r bwrdd ymadawiadau ar ein gwefan i ddod o hyd i amseroedd y bysiau a’r trenau diwethaf sy’n rhedeg. 

I gael rhagor o wybodaeth am streic tacsis Caerdydd, ewch i Wales Online yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon