Newyddion

Traveline Cymru news and updates

Gwasanaeth bws rhif 19 newydd Llew Jones International yn cael ei lansio yng nghwmni gwestai arbennig, Guto Bebb AS

05 Mai 2016

Cynhaliodd Llew Jones International ddigwyddiad agored i bawb er mwyn lansio gwasanaeth bws newydd sbon â chyfleuster WiFi, sef gwasanaeth rhif 19. Cafodd y digwyddiad lansio ei gynnal ddydd Llun Gŵyl y Banc ar Sgwâr Llanrwst.

Lansiodd Guto Bebb, yr Aelod Seneddol dros Aberconwy, y gwasanaeth bws rhif 19 newydd ar Sgwâr Ancaster, Llanrwst ddydd Llun 2 Mai am 11am. Roedd aelodau o staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau am y gwasanaeth newydd. Cafodd defnyddwyr gwasanaeth rhif 19 ar Ŵyl y Banc yn Llanrwst, a oedd yn teithio i gyfeiriad Llandudno, gyfle hefyd i ofyn cwestiynau i Guto a oedd wrth law yn Watling Street o 10:45am ymlaen.

I gael y manylion diweddaraf am holl wasanaethau’r cwmni, dilynwch Llew Jones International ar Twitter ar @ljiservicebuses neu ar Facebook ar /llewjonescoaches.

Cefnogwch eich bws rhif 19 lleol newydd

Gan mai eich gwasanaeth chi yw hwn, byddai Llew Jones International yn hoffi clywed gennych.

Dylech anfon unrhyw sylwadau/adborth ynghylch y gwasanaeth newydd i enq@llewjones.com. Byddai’r cwmni yn gwerthfawrogi unrhyw adborth yn fawr.


Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon