Newyddion

Cardiff Bus famous orange buses

Pam y bydd yr hen fysiau oren enwog i’w gweld yng Nghaerdydd unwaith eto

06 Mai 2016

Mae’r brand wedi’i ailgyflwyno er mwyn nodi pen-blwydd y cwmni bysiau, Bws Caerdydd, yn 30 oed.

Roedd yr hen fysiau oren i’w gweld bron ymhob man yng Nghaerdydd, ac roedd pawb a gafodd eu geni a’u magu yn y ddinas yn gyfarwydd â’r slogan “pick an orange”.

Dros 15 mlynedd ar ôl i’r bysiau oren a gwyn enwog adael strydoedd y brifddinas, bydd y cerbyd retro hwn yn cludo teithwyr unwaith yn rhagor.

Mae Bws Caerdydd wedi ailbaentio’r bws deulawr â’r lliwiau a oedd yn gyfarwydd i gynifer o bobl, er mwyn nodi’r ffaith bod 30 mlynedd wedi mynd heibio ers i Bws Caerdydd gymryd drosodd fel cwmni bysiau ‘hyd braich’ sy’n eiddo i’r cyngor.

Cafodd y bysiau oren eu cyflwyno gyntaf ym mis Awst 1972 a chawsant eu defnyddio tan droad y mileniwm. Cafodd y lliwiau ar gyfer y brand newydd eu ffafrio dros y lliwiau posibl eraill, sef oren tywyllach a gwyn a glaswyrdd a gwyn.

Cafodd y newid o’r lliw marŵn blaenorol ei groesawu gan y rheolwr bysiau cyffredinol ar y pryd, David Smith, a oedd o blaid y newid am resymau diogelwch. Dywedodd un o gynghorwyr y ddinas y byddai’r newid yn ffordd o gael gwared â’r hen liwiau diflas, salw ac anniogel.

Yn 1986 cafodd gwasanaethau bysiau ym Mhrydain eu dadreoleiddio, ac arweiniodd hynny at ffurfio’r cwmni ‘hyd braich’, sef Bws Caerdydd.

Bydd y bws Scania Olympus rhif 472, sydd hefyd yn arddangos y sticeri “pick an orange”, yn cael ei ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn i nodi’r pen-blwydd hwnnw.

Dywedodd Chris Amodeo o “I Loves the ’Diff” ei fod yn falch o weld y lliw oren y mae ganddo atgofion melys amdano’n dychwelyd i’r ddinas.

“Mae’n siŵr na ddylwn i fod yn edrych ymlaen gymaint at weld y lliw oren unwaith eto, ond i fi mae bysiau oren mor nodweddiadol o Gaerdydd â “Clark’s Pies” a Billy’r Morlo,” meddai.

Ffynhonnell y wybodaeth: Wales Online.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon