Newyddion

Traveline Cymru Customer Panel

Dewch i ddweud eich dweud drwy ymuno â’n panel cwsmeriaid

25 Mai 2016

Rydym yn chwilio am 8-10 o ddefnyddwyr rheolaidd Traveline Cymru i fod yn rhan o’n paneli cwsmeriaid newydd.

Os ydych yn byw yng Nghymru ac yn defnyddio Traveline Cymru i’ch helpu i fynd o le i le ar drafnidiaeth gyhoeddus, rydym am glywed gennych.

Rydym yn sefydlu dau banel – un yn y gogledd ac un yn y de. Bydd yr aelodau’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn mewn lleoliad a drefnir cyn y cyfarfod. Caiff yr holl gostau teithio eu had-dalu a chaiff lluniaeth ei ddarparu.

Rydym am i aelodau ein panel fynegi eu barn yn onest am unrhyw newidiadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud yn Traveline Cymru, ac rydym am iddynt roi adborth gonest i ni am ein gweithgarwch marchnata a’n hymgyrchoedd yn y dyfodol. Bydd hwn yn gyfle gwych i leisio barn a gwneud gwahaniaeth yn Traveline Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

*

*

*

*

Pa rai o wasanaethau Traveline Cymru yr ydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd?

 

 

 

*

 

Dyddiad cau ar gyfer dangos diddordeb: 30/06/2016

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, anfonwch ebost i customerpanel@traveline.cymru.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Graham Walter
Rheolwr Gyfarwyddwr
Traveline Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon