Newyddion

Arriva Trains Wales mobile ticket

Cyfle’n codi i deithwyr ar drenau yng Nghymru ddefnyddio eu ffôn fel tocyn

25 Mai 2016

Yn fuan, bydd teithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau Trenau Arriva Cymru yn gallu defnyddio tocynnau ar eu ffôn, drwy sganio tocyn digidol sydd ar eu ffôn symudol yn yr orsaf.

Cafodd y system ei threialu ar reilffyrdd Caerdydd a’r Cymoedd y llynedd, ac ers hynny mae bron 70,000 o deithwyr wedi lawrlwytho’r ap a’i ddefnyddio ar gyfer dros 360,000 o deithiau.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid, Lynne Milligan, fod treialu’r system newydd o ddefnyddio ffonau symudol fel tocynnau yn y de wedi bod yn “llwyddiant”, a disgrifiodd y datblygiad fel un “arloesol”.

Ychwanegodd: “Rydym bob amser yn ceisio deall anghenion ein teithwyr.”

Wrth dreialu’r system ar gyfer ffonau symudol ar rwydwaith Caerdydd a’r Cymoedd, cafodd y system ei defnyddio ar gyfer bron 400,000 o deithiau dros gyfnod o 12 mis ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru.

Bellach mae’r cwmni yn cyflwyno’r system ar draws ei rwydwaith ehangach gan dynnu sylw at y ffaith mai dyma’r system gyntaf o’i math yn y DU.

Gobaith y cwmni yw y bydd y system newydd, a elwir yn docyn hyblyg symudol, yn cynnig gwerth am arian a dull mwy cyfleus o brynu tocynnau.

Rhaid i docynnau gael eu prynu gan ddefnyddio ap, ac yna gallant gael eu sganio gan beiriannau sganio ffonau symudol yn yr orsaf.

Buddsoddodd y cwmni £250,000 yn y sganwyr newydd sydd ar gael ar hyn o bryd yng ngorsafoedd Abertawe, Caerdydd Canolog, Heol y Frenhines Caerdydd, Cathays, Pen-y-bont ar Ogwr ac Amwythig.

Yn nes ymlaen eleni bydd rhagor o sganwyr yn cael eu gosod mewn gorsafoedd eraill a fydd yn cynnwys Caer, Castell-nedd, y Rhyl a Henffordd.

Mae’r gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd ar lwybrau lle mae Trenau Arriva Cymru yn pennu prisiau tocynnau.

Yn ôl y cwmni, mae’r tocyn yn arbennig o fuddiol i bobl sy’n gweithio’n rhan amser neu’n gweithio oriau hyblyg ac sy’n defnyddio’r trên yn ysbeidiol, ac i bobl sy’n defnyddio’r trên yn achlysurol, megis y sawl sy’n mynychu digwyddiadau chwaraeon.

Gellir prynu tocynnau i deithio rhwng unrhyw ddwy orsaf, a gall y tocynnau gael eu cadw ar ffôn clyfar am hyd at dri mis ar ôl iddynt gael eu prynu.

Cyn teithio rhaid sicrhau bod y tocynnau’n weithredol, a gellir gwneud hynny drwy fynd at aelod o staff neu drwy ddefnyddio sganiwr cod bar wrth y gât.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.arrivatrainswales.co.uk

Ffynhonnell y wybodaeth: Wales Online

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon