Newyddion

Festival of Transport Barry Island

Gŵyl Drafnidiaeth Ynys y Barri 2016, Dydd Sul 12 Mehefin

07 Mehefin 2016

Caiff Gŵyl Drafnidiaeth Ynys y Barri 2016 ei chynnal ddydd Sul 12 Mehefin.

Disgwylir y bydd dros 400 o gerbydau’n ymweld â’r ŵyl, o geir clasurol a hen fysiau i rai cerbydau newydd. Yn ogystal, bydd Grŵp Gwarchod Trafnidiaeth Caerdydd yn cynnig teithiau rhad ac am ddim ar hen fysiau yn ystod y dydd, ac mae Cyngor Bro Morgannwg yn cefnogi’r Ŵyl Drafnidiaeth hefyd.

Mae gan y grŵp hen fysiau gerbydau sy’n dyddio’n ôl i’r 1940au, ond eleni bydd chwe cherbyd y maent yn gofalu amdanynt yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 50 oed.

Eleni hefyd cawn ymweliad gan dîm erobatig yr Awyrlu Brenhinol a’r Red Arrows, a fydd yn arddangos eu campau dros draeth Ynys y Barri ganol dydd (12:00) os bydd y tîm rheoli traffig awyr wedi clirio parth chwe milltir na fydd awyrennau eraill yn gallu hedfan ynddo.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon