Newyddion

Cardiff Bus Father's Day Competition

Bws Caerdydd yn lansio cystadleuaeth ar gyfer Sul y Tadau

08 Mehefin 2016

Mae Bws Caerdydd wedi cyhoeddi ei fod yn ymuno ag I Loves The ’Diff i ddweud diolch wrth dadau ar Sul y Tadau eleni.

Mae’r darparwr trafnidiaeth a’r brand ffasiynol wedi dod at ei gilydd i gynnig cyfle i bobl ledled y ddinas ennill un o ddeg o grysau-T ‘cheers drive’, sy’n werth £15.99, i’w roi i’w tad.

Bydd un enillydd lwcus hefyd yn cael taleb One4All sy’n werth £50, y gellir ei gwario mewn dros 21,000 o siopau ledled y DU ac ar-lein, megis Amazon, Gap, Argos a Halfords.

Meddai Carys Roberts, cydlynydd marchnata Bws Caerdydd: “Roedden ni am wneud rhywbeth difyr i helpu pobl Caerdydd i ddangos i’w tadau gymaint y maent yn eu gwerthfawrogi, oherwydd yn aml mae’n anodd dod o hyd i’r anrheg berffaith sy’n gallu gwneud hynny.

“Mae I Loves The ’Diff yn frand sydd wedi hen ennill ei blwyf yng Nghaerdydd, felly mae’n wych ein bod yn gallu ymuno â nhw i gynnig rhywbeth arbennig i dadau’r ddinas.”

Dylai’r sawl sy’n dymuno enwebu eu tad ebostio win@cardiffbus.com gan esbonio mewn 50 o eiriau neu lai pam y mae eu tad yn haeddu ennill. Dylent gynnwys eu manylion cyswllt ac anfon yr ebost cyn hanner nos, nos Fawrth 14 Mehefin.

Cysylltir ag enillwyr y gystadleuaeth ar 15 Mehefin, a byddant yn cael eu gwahodd i swyddfeydd Bws Caerdydd yn Sloper Road i dderbyn eu gwobrau.

Meddai Christian Amodeo, sylfaenydd I Loves The ’Diff: “I ni, mae’r ymadrodd ‘cheers drive’ mor nodweddiadol o’r ddinas â “Clark’s Pies”, Billy’r Morlo a Bws Caerdydd, a dyna pam y gwnaethom benderfynu dylunio’r crysau-T.

“Rydym yn falch iawn o ymuno â Bws Caerdydd i helpu i gydnabod tadau Caerdydd sydd wedi gwneud ymdrech arbennig i helpu eu plant, ac i roi rhywbeth yn ôl iddynt.

“Y llynedd, lansiodd Bws Caerdydd gystadleuaeth lwyddiannus a roddodd gyfle i bobl enwi bws ar ôl eu tad. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld yr ymatebion a fydd yn dod i law, ac i ddathlu’r berthynas gadarnhaol sydd rhwng tadau a’u plant yng Nghaerdydd.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon