Newyddion

Stagecoach Bus add more buses from Rhondda to Cardiff

Stagecoach yn ychwanegu rhagor o fysiau o’r Rhondda i Gaerdydd

08 Mehefin 2016

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi cynyddu nifer y teithiau y mae’n eu darparu o’r Rhondda i Gaerdydd. Bellach mae gwasanaeth rhif 132, sy’n mynd o Faerdy, Porth, Pontypridd a’r Eglwys Newydd i Gaerdydd, yn rhedeg hyd at bob 12 munud ers i amserlen newydd gael ei chyflwyno ar 23 Mai.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru, “Rydym yn adolygu ein rhwydwaith yn gyson er mwyn adlewyrchu’r newidiadau ym mhatrymau teithio pobl, ac mae’r gwelliannau diweddaraf hyn yn cyd-fynd â’n tocynnau clyfar a’n gwefan newydd sy’n darparu cynlluniwr taith newydd a gwybodaeth amser real am amseroedd bysiau.

Rydym yn sicrhau ei bod yn haws i gwsmeriaid deithio ar y bws, drwy gynnig mwy o fysiau bob awr, darparu cynlluniwr taith newydd gwych ar ein gwefan a chynnig cyfleoedd teithio hyblyg gyda cherdyn clyfar.”

Meddai wedyn, “Mae’r bws yn ffordd fwy gwyrdd o deithio, sy’n eich galluogi i osgoi taliadau parcio ac arbed yr amser y byddech yn ei dreulio’n aros mewn ciw i gael gafael ar le parcio. Gall teithwyr rheolaidd fwynhau arbedion o hyd at 16% trwy brynu ein tocynnau tymor ar-lein â cherdyn clyfar.”

 

DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon