Newyddion

Get on Board with First Cymru during Catch the Bus Week

Teithio ar fysiau First Cymru yn ystod Wythnos Dal y Bws

04 Gorffennaf 2016

Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru yn annog pobl i ddefnyddio bysiau’r wythnos hon, wrth i Wythnos Dal y Bws gael ei chynnal am y pedwerydd tro yn y DU (4-10 Gorffennaf).

Mae First Cymru yn cynnal digwyddiad arbennig yn ystod Wythnos Dal y Bws. Ddydd Gwener 8 Gorffennaf rhwng 9am a 3pm bydd rheolwyr, gyrwyr bysiau a chynrychiolwyr diogelwch o First Cymru wrth law yng Ngorsaf Fysiau’r Cwadrant yn Abertawe i siarad â chwsmeriaid am sut mae dal bws ac aros yn ddiogel tra byddant arno. Mae First Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Age Cymru Bae Abertawe i drefnu’r digwyddiad, a bydd staff y cwmni hefyd yn esbonio sut i ddefnyddio gwefan y cwmni – er mwyn dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am amserlenni a phroblemau teithio. Bydd cynrychiolwyr o Age Cymru Bae Abertawe yn defnyddio’r digwyddiad i sôn wrth bobl hŷn am sut mae defnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel.

Yn ogystal â’r gweithgareddau hyn bydd y sawl sy’n defnyddio sgwteri ac sy’n dymuno mynd â nhw ar fysiau, ond nad oes ganddynt drwydded briodol gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i wneud hynny, hefyd yn gallu defnyddio’r digwyddiad ddydd Gwener 8 Gorffennaf i ofyn am gael asesiad sgwter yn y fan a’r lle.

Meddai Mike Gibbons, Rheolwr Diogelwch First Cymru a threfnydd gweithgarwch y cwmni ar gyfer Wythnos Dal y Bws: “Rydym yn falch iawn o allu cymryd rhan yn Wythnos Dal y Bws. Bydd gennym dîm o bobl allan ddydd Gwener 8 Gorffennaf yn siarad â’n cwsmeriaid am ein gwasanaethau lleol a sut mae gwneud y defnydd gorau ohonynt. Mae cyfran eithaf helaeth o’r bobl sy’n defnyddio bysiau’n bobl hŷn, felly mae’r cysylltiad ag Age Cymru Bae Abertawe yn un sydd o fudd i’r ddau sefydliad. Bydd Age Cymru Bae Abertawe yn rhoi ambell air o gyngor ynghylch sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd, ac i ategu hynny byddwn ni’n esbonio sut y gall pobl wneud y defnydd gorau o’n gwefan. Rydym yn gobeithio y bydd pobl yn teimlo bod y digwyddiad yn ddefnyddiol.”

Meddai Nicola Russell-Brooks, Prif Weithredwr Age Cymru Bae Abertawe: “Mae llawer o bobl hŷn yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus i fynd o le i le yn eu cymunedau. Rydym yn gwybod bod y bysiau yn Abertawe yn bwysig tu hwnt i bobl hŷn yn lleol, ac y gallant fod o help mawr i gyfoethogi eu bywydau. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda First Cymru i sicrhau bod gwasanaethau bws yn Abertawe yn parhau i ddiwallu anghenion pobl hŷn yn lleol.”

Dyma’r bedwaredd flwyddyn i Wythnos Dal y Bws gael ei chynnal, a bwriad yr ymgyrch sydd ar waith ledled y DU yw codi ymwybyddiaeth o fanteision dal y bws. Eleni, caiff yr ymgyrch ei gynnal rhwng 4 a 10 Gorffennaf a bydd digwyddiadau, cynigion ar docynnau a gweithgareddau eraill yn cael eu cynnig ledled y DU wrth i gwmnïau bysiau, awdurdodau lleol a grwpiau teithwyr gymryd rhan. I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Dal y Bws, ewch i www.catchthebusweek.co.uk. 

I gael rhagor o wybodaeth am First Cymru, ewch i www.firstgroup.com/cymru.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon