Newyddion

NAT Group Catch the Bus Week

New Adventure Travel yn dathlu Wythnos Dal y Bws drwy gynnal digwyddiadau ar hyd a lled de Cymru

04 Gorffennaf 2016

Mae Wythnos Dal y Bws yn ddathliad blynyddol a drefnir gan Greener Journeys i gydnabod pwysigrwydd bysiau i’r amrywiaeth o ddulliau teithio sydd ar gael yn y DU. Nod yr Wythnos yw codi ymwybyddiaeth o fanteision teithio ar fws, ac annog pobl nad ydynt fel rheol yn ystyried dal y bws i adael eu ceir gartref a rhoi cynnig arni.

Mae New Adventure Travel (N.A.T.) yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod Wythnos Dal y Bws er mwyn siarad â chwsmeriaid presennol a denu defnyddwyr newydd. Byddem yn annog ein holl gwsmeriaid i alw heibio i ddweud eu dweud.

Yn rhan o’r fenter, bydd teithwyr yn gallu cwrdd â chynrychiolwyr Grŵp N.A.T. yn y lleoliadau canlynol:

Dydd Llun 4 Gorffennaf 2016 – Gwasanaethau N1 ac N4 yng Nghasnewydd

Bydd rheolwyr N.A.T. yn teithio ar wasanaethau N1 ac N4 ar yr adegau y bydd disgyblion a phobl yn teithio’n ôl ac ymlaen i’r ysgol a’r gwaith. Mae manylion y gwasanaethau penodol lle bydd modd i gwsmeriaid eistedd a sgwrsio â’r tîm i’w gweld yma.

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2016 – Y Barri

Bydd staff N.A.T. yn cydweithio â Bus Users Cymru ac yn mynychu digwyddiad ‘Bysiau wrth eich Bodd’ ddydd Mawrth 5 Gorffennaf o 10:00 i 14:00 yn Sgwâr y Brenin, Y Barri. Cynhelir y digwyddiad yn un o fysiau N.A.T. ac mae croeso i gwsmeriaid alw heibio i gasglu amserlenni a chwrdd â’r staff er mwyn trafod eu teithiau.

Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 2016 – Gwasanaethau 303 a 304 rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr

Bydd rheolwyr N.A.T. yn teithio ar wasanaethau 303 a 304 ar yr adegau y bydd disgyblion a phobl yn teithio’n ôl ac ymlaen i’r ysgol a’r gwaith. Mae manylion y gwasanaethau penodol lle bydd modd i gwsmeriaid eistedd a sgwrsio â’r tîm i’w gweld yma.

Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2016 – Caerdydd

Bydd staff N.A.T. yn cydweithio â Bus Users Cymru ac yn mynychu digwyddiad ‘Bysiau wrth eich Bodd’ ddydd Mercher 6 Gorffennaf o 09:30 i 13:30 yn Neuadd Dewi Sant (Lefel 5). Mae croeso i gwsmeriaid alw heibio i gasglu amserlenni a chwrdd â’r staff er mwyn trafod eu teithiau.

Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2016 – Gwasanaethau X1 ac X11 yng Nghaerdydd

Bydd rheolwyr N.A.T. yn teithio ar wasanaethau X1 ac X11 ar yr adegau y bydd disgyblion a phobl yn teithio’n ôl ac ymlaen i’r ysgol a’r gwaith. Mae manylion y gwasanaethau penodol lle bydd modd i gwsmeriaid eistedd a sgwrsio â’r tîm i’w gweld yma.

Dydd Iau 7 Gorffennaf 2016 – Gwasanaethau 102 a 106 ym Mhontypridd

Bydd rheolwyr N.A.T. yn teithio ar wasanaethau 102 a 106 ar yr adegau y bydd disgyblion a phobl yn teithio’n ôl ac ymlaen i’r ysgol a’r gwaith. Mae manylion y gwasanaethau penodol lle bydd modd i gwsmeriaid eistedd a sgwrsio â’r tîm i’w gweld yma.

Dydd Gwener 8 Gorffennaf 2016 – Castell-nedd – Cwrdd â’r tîm

Bydd staff N.A.T. y tu allan i Morrisons yn Sgwâr yr Angel, Castell-nedd o 10:00 i 14:00 yn dosbarthu amserlenni a thocynnau bws rhad ac am ddim ac yn gwrando ar awgrymiadau gan gwsmeriaid. Mae rhwydwaith Castell-nedd wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar, ac mae’r cwmni yn awyddus i gael adborth gan deithwyr er mwyn gwneud rhagor eto o welliannau. I gyd-fynd ag Wythnos ‘Dal y Bws’, bydd 100 o docynnau bws rhad ac am ddim yn cael eu dosbarthu er mwyn denu defnyddwyr newydd.

Dydd Gwener 8 Gorffennaf 2016 – Gwasanaethau 41, 59, X6 a 118 yn Abertawe, Castell-nedd a Gŵyr

Bydd rheolwyr N.A.T. yn teithio ar wasanaethau 41, 59, X6 a 118/119 ar yr adegau y bydd disgyblion a phobl yn teithio’n ôl ac ymlaen i’r ysgol a’r gwaith. Mae manylion y gwasanaethau penodol lle bydd modd i gwsmeriaid eistedd a sgwrsio â’r tîm i’w gweld yma.

Dydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2016 – Casnewydd – Cwrdd â’r tîm

Bydd staff N.A.T. yn un o fysiau’r cwmni y tu allan i Tesco ym Mharc Siopa Spytty o 10:00 i 14:00 yn dosbarthu amserlenni a thocynnau bws rhad ac am ddim ac yn gwrando ar awgrymiadau gan gwsmeriaid. Mae rhwydwaith Casnewydd wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar, ac mae’n cael llawer o ganmoliaeth. Fodd bynnag, mae N.A.T. yn ymwybodol bod mwy i’w wneud o hyd ac mae’n awyddus i gwrdd â theithwyr er mwyn gwrando ar adborth. I gyd-fynd ag Wythnos ‘Dal y Bws’, bydd 100 o docynnau bws rhad ac am ddim yn cael eu dosbarthu er mwyn denu defnyddwyr newydd.

Meddai Kevyn Jones, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym yn gwrando ar adborth gan ein cwsmeriaid drwy’r amser, ond rydym yn teimlo ei bod yn bwysig iawn hefyd ein bod yn cwrdd â theithwyr yn rheolaidd. Er bod Wythnos Dal y Bws yn gyfle delfrydol i ni wneud hynny, nid ydym yn cyfyngu ein rhyngweithio i un wythnos yn unig. Rydym yn hoffi annog teithwyr i gysylltu â ni unrhyw bryd ac ymweld â ni mewn llawer o ddigwyddiadau yr ydym yn cymryd rhan ynddynt yn ystod y flwyddyn.”

 

DIWEDD


I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan New Adventure Travel yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon