Newyddion

Traveline Cymru news and updates

Pawb sy’n gwisgo coch yn cael teithio am ddim ar ôl 4pm yfory

05 Gorffennaf 2016

Bydd defnyddwyr bysiau sy’n gwisgo coch yfory (dydd Mercher 6 Gorffennaf) yn cael teithio’n rhad ac am ddim o 4pm ymlaen, wrth i First Cymru ymuno i gefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth i’r chwaraewyr geisio ennill eu lle yn rownd derfynol Euro 2016.

Wrth i falchder y genedl gynyddu ymhellach ac wrth i bobl gefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, bydd gyrwyr First Cymru yn cyfnewid eu gwisg arferol am grysau pêl-droed Cymru neu unrhyw ddilledyn coch arall. Bydd cwsmeriaid sy’n dal bysiau yn ardal Bae Abertawe hefyd yn cael teithio’n rhad ac am ddim ar ôl 4pm os byddant yn gwisgo dillad coch.

Bydd y gêm hanesyddol rhwng Cymru a Phortiwgal yn dechrau am 8pm, ac er mwyn helpu pobl i ddod ynghyd i wylio’r gêm bydd yn cael ei dangos ar sgriniau mawr ym Mharc Singleton. Bydd modd i bobl gyrraedd yno cyn y gic gyntaf drwy ddefnyddio amrywiaeth o wasanaethau bws lleol (sef gwasanaethau 2, 2A, 2B, 2C, 3, 3A, 4, 4A, 8, 10, 14, 20, 21, 21A, 21B a 37) a bydd bysiau gwennol ar gael i gludo pobl yn ôl yn rhad ac am ddim i ganol y ddinas. Caiff y bysiau gwennol eu darparu gan First Cymru mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe, a byddant yn rhedeg o 9.45pm nes y bydd y bobl olaf wedi gadael y safle.

Yn ogystal, bydd First Cymru yn ceisio cynyddu’r cyffro ynghylch y gêm drwy roi crysau pêl-droed am ddim i gwsmeriaid lwcus ddydd Mercher 6 Gorffennaf. Bydd y cwmni yn rhoi 25 o grysau pêl-droed i blant sy’n teithio ar y rhwydwaith yn ystod y dydd. I gael cyfle i ennill, bydd angen i blant ruo nerth eu pen fel draig os byddant yn gweld aelod o staff sy’n dosbarthu’r crysau. Bydd hynny’n digwydd o 3pm ymlaen mewn lleoliadau yn Abertawe a’r cyffiniau.

Meddai Simon Cursio, Rheolwr Cyffredinol First Cymru: “Mae hwn yn achlysur hanesyddol. Mae ein staff, ein cwsmeriaid a Chymru gyfan, fwy neu lai, yn hynod o falch o berfformiadau tîm Cymru hyd yn hyn. I’r sawl a fydd yn gallu mynd i Barc Singleton i wylio’r gêm, bydd hwn yn achlysur arbennig iawn. Rydym yn falch o allu chwarae ein rhan drwy ddarparu’r gwasanaeth bysiau gwennol ar ôl y digwyddiad. Ond rydym am helpu pobl i gyrraedd yno hefyd, felly rydym yn cynnig teithiau rhad ac am ddim ar ôl 4pm i bawb sy’n gwisgo coch ac sydd am fynd i Barc Singleton neu deithio yn ardal Bae Abertawe.

“Mae pob un ohonom yn dymuno’n dda i’r tîm ac yn gobeithio y bydd y chwaraewyr yn perfformio fel y maent wedi gwneud yn barod er mwyn ennill lle i Gymru yn y rownd derfynol.”

I gael rhagor o wybodaeth am First Cymru neu ddod o hyd i amserlenni ar gyfer gwasanaethau lleol, ewch i http://www.firstgroup.com/cymru.

DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon