Newyddion

TrawsCymru

Tocyn Antur TrawsCymru

20 Gorffennaf 2016

Mae tocyn diwrnod sy'n caniatáu i chi deithio heb gyfyngiad ar fysiau ar draws Cymru wedi cael ei lansio heddiw gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

Pris y tocyn yw £10 i oedolion, £7 i blant neu £25 i deulu. Mae'r tocyn TrawsCymru newydd yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ar unrhyw fws yn ei rwydwaith teithiau pell dros Gymru gyfan.

Dywedodd Ken Skates:

"Mae tocyn diwrnod newydd TrawsCymru yn gyfle cyffrous i annog pobl ar draws Cymru i fwynhau'r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus gwych hwn a theithio o amgylch Cymru.

"Mae'r tocyn yn cynrychioli arbediad sylweddol i'r rheini sydd am deithio'n bell a gobeithio, hwyluso mwy o deithio o amgylch Cymru gan hybu twristiaeth ac economïau lleol ar yr un pryd. Gallwch esgyn a disgyn ble fynnoch gyda’r tocyn hwn.

"Gyda dathliadau Blwyddyn Antur 2016 eisoes wedi dechrau, mae'r tocyn hwn yn rhoi esgus  arall i chi fynd allan a mwynhau Cymru."

Gwnaeth gwasanaethau TrawsCymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru gludo dros 2 filiwn o bobl llynedd. Mae gan y rhan fwyaf o'r bysus nodweddion tebyg i goets gan gynnwys seddi cyfforddus, WiFi am ddim a digon o le i roi eich bagiau. Mae'r tocyn diwrnod yn caniatáu i chi deithio heb gyfyngiad ar bob un o wasanaethau T1, T2, T3, T4, T5 a T9 ac ar wasanaeth X85 rhwng y Drenewydd a Machynlleth.

I ddechrau eich Antur TrawsCymru ewch i www.trawscymru.info neu ffoniwch 0300 200 22 33 i gael mwy o wybodaeth am amserlenni ac awgrymiadau am ddiwrnodau allan.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon