Newyddion

Flying Scotsman steams into Wales for luxury whistle-stop tour

Cyfle i deithio mewn steil ar drên stêm y Flying Scotsman

01 Awst 2016

Bydd trên stêm enwog y Flying Scotsman yng Nghymru y flwyddyn nesaf ac yn cynnig dwy daith mewn un diwrnod.

Bydd y trên yn cyrraedd Caerdydd o Amwythig brynhawn dydd Gwener 19 Mai y flwyddyn nesaf, ar ôl teithio drwy’r Gororau. Bydd yn cludo teithwyr a adawodd brifddinas Cymru yn y bore ar gerbydau a gâi eu tynnu gan beiriant diesel.

Yna, bydd locomotif mwyaf enwog y byd yn teithio i Gasnewydd erbyn 7pm lle bydd y sawl sy’n dwlu ar drenau stêm yn gallu teithio ar hyd rheilffordd Aber Afon Hafren, heibio i Gas-gwent a Lydney, i Gaerloyw ac ymlaen i orsaf Bristol Parkway.

Yna, byddant yn dychwelyd i Gasnewydd ar gerbydau a fydd yn cael eu tynnu gan beiriant diesel.

Mae’r tocynnau rhataf yn costio £89 a bydd y seddau dosbarth Pullman drutaf – sy’n cynnwys pryd o fwyd pedwar cwrs gyda gwin a siampên – yn costio £225.

Bydd y sawl sy’n teithio yn y bore’n cael cynnig brecwast a chinio canol dydd, a bydd y sawl sy’n teithio gyda’r hwyr yn cael cinio nos.

“Byddant yn cael dau bryd o fwyd ar daith y bore o Gaerdydd, ac yna bydd y Flying Scotsman yn teithio o Gasnewydd gyda’r hwyr,” meddai Marcus Robertson, cadeirydd Steam Dreams sy’n trefnu’r teithiau.

Mae’r trên wedi teithio o orsaf Euston yn Llundain i Gaergybi ac yn ôl yn y gorffennol.

“Nid yw pobl yn chwilio am y daith hiraf posibl,” meddai Mr Robertson.

“Yr hyn y maent am ei weld yw golygfeydd hardd a’r Flying Scotsman. Dyna sy’n eu denu – dweud eu bod wedi cael eu tynnu gan y Flying Scotsman.”

Roedd e’n hoff iawn o’r daith o Gasnewydd.

“Os yw’r tywydd yn braf, mae teithio rhwng Casnewydd a Chaerloyw drwy Gas-gwent ac o Lydney yn brofiad gwych,” meddai Mr Robertson.

“Yna, byddwn yn mynd i Fryste ac yn gwneud yr un peth eto ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach.

“Mae pob person yn y wlad yn berchen ar yr injan, ac rwy’n teimlo na ddylai fod yn rhaid i bobl fynd i Lundain i’w gweld.”

Fel rheol, mae’r Scotsman i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Rheilffyrdd yn Lloegr.

Roedd Mr Robertson yn disgwyl y byddai galw mawr am y tocynnau.

Yn y gorffennol maent wedi’u gwerthu i gyd cyn pen diwrnod neu ddau.

“Rwy’n credu y byddant wedi’u gwerthu i gyd unwaith y daw pobl i glywed am y teithiau,” meddai Mr Robertson.

Y Scotsman oedd y trên mwyaf poblogaidd yr oedd Steam Dreams yn ei ddefnyddio.

“Ble bynnag yr ydym wedi bod, mae’r Flying Scotsman wedi bod yn fwy poblogaidd nag unrhyw locomotif stêm arall yr ydym wedi’i defnyddio,” meddai Mr Robertson.

“Bydd hwn yn gyfle gwych i’w gweld ar waith ar y prif rwydwaith, ac yn gyfle gwych hefyd i fwynhau diwrnod hyfryd allan yn ein cerbydau hanesyddol sydd rhwng 50 a 60 oed.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.steamdreams.co.uk

Erthygl o Wales Online.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon