Newyddion

You can travel from Wales to the West Country by sea this summer

Cyfleoedd i deithio ar y môr o Gymru i dde-orllewin Lloegr yn ystod yr haf

01 Awst 2016

Mae’r MV Balmoral yn cynnig cyfleoedd i chi deithio ar y môr i Ddyfnaint a Gwlad yr Haf yn ogystal â theithio ar hyd afonydd.

Hoffech chi fynd ar fordaith undydd yr haf hwn? Ydych chi erioed wedi meddwl mor braf fyddai gallu mwynhau arfordir de-orllewin Lloegr o’r môr yn hytrach na gorfod mynd yno mewn car crasboeth?

Diolch i long hardd yr MV Balmoral, gall y sawl sydd ar eu gwyliau a’r sawl sydd am fwynhau taith undydd deithio draw i Wlad yr Haf a Gogledd Dyfnaint o Benarth, Porth-cawl ac Abertawe yr haf hwn.

Ac yn ogystal â hwylio ar draws Môr Hafren, mae teithiau ar gael i fyny afonydd Gwy, Avon a Hafren.

Bydd y teithiau’n cynnig cyfle i chi hwylio ar draws y môr i Clevedon, teithio i fyny afon Avon i Fryste dan bont grog enwog Brunel, gweld tair pont i fyny afonydd Hafren ac Wysg yn ogystal â mwynhau teithiau poblogaidd i lawr Môr Hafren i Ilfracombe, Minehead a Watchet.

Yn ogystal, bydd cyfle i fwynhau rhywfaint o awyr y môr ar deithiau byrrach o amgylch Ynys Echni, Ynys Rhonech a Thrwyn yr As Fach.

Mae gan y Balmoral far, bwyty a lolfeydd wedi’u gwresogi ac mae’n gallu cludo hyd at 500 o deithwyr, felly mae’n cynnig diwrnod gwirioneddol wych allan. Mae’n parhau â’r hen draddodiad enwog o gynnig teithiau pleser ar Fôr Hafren.

I gael manylion llawn am amserlen a phrisiau teithiau ar y Balmoral ac archebu tocynnau, ewch i www.whitefunnel.co.uk neu ffoniwch 0117 325 6200.

Erthygl o Wales Online.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon