Newyddion

Traveline Cymru customer panel

Gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth Cymru yn penodi panel cwsmeriaid newydd

19 Medi 2016

Mae Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru, wedi penodi panel cwsmeriaid newydd sbon, a fydd yn cynnig adborth rheolaidd ynghylch gwasanaethau’r cwmni ac yn cyfrannu at unrhyw ddatblygiadau newydd y mae’r cwmni’n bwriadu eu cyflwyno.

Sefydlodd Traveline Cymru y panel yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf bod ymchwil annibynnol wedi dangos bod cwsmeriaid Traveline Cymru ymysg y rhai hapusaf yn y DU. Yn awr, mae’r cwmni’n benderfynol o sicrhau bod lefel bodlonrwydd cwsmeriaid yn parhau’n uchel.

Mae aelodau’r panel yn dod o bob cwr o Gymru ac maent yn ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac yn gwsmeriaid i Traveline Cymru. Cawsant eu recriwtio drwy gyfryngau cymdeithasol a llythyr newyddion y cwmni. Mae’r panel yn cynnwys aelodau o amrywiaeth o oedrannau a chefndiroedd, ond mae gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin, sef yr awydd i helpu’r cwmni i sicrhau ei fod yn gwrando ar anghenion ei gwsmeriaid ac yn gwella lefel y gwasanaeth y mae’n ei roi i deithwyr sy’n cynllunio eu teithiau ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Bydd aelodau’r panel yn rhoi eu barn am bethau megis newidiadau i wefan neu ap y cwmni, a byddant yn cynnig eu sylwadau a’u hadborth ynghylch ymgyrchoedd marchnata.

Meddai aelod o’r panel, Nigel Thomas, sy’n 62 oed ac sy’n cadw llety cŵn yn ei gartref yn yr Eglwys Newydd: “Rwyf wedi bod yn deithiwr brwd ar fysiau a threnau ers blynyddoedd, ac rwyf ond yn defnyddio’r car pan nad oes dim dewis arall ar gael. Rwy’n gobeithio gallu cael mewnbwn cadarnhaol er mwyn parhau i wella gwefan a delwedd Traveline Cymru, o safbwynt rhywun sy’n defnyddio’r wefan bron bob dydd ac sy’n teithio ar fysiau a threnau drwy Gymru gyfan yn rheolaidd. Byddwn hefyd yn hoffi lobïo’r gweithredwyr trafnidiaeth ynghylch amserlenni, arosfannau bysiau, gwybodaeth fyw am wasanaethau, ansawdd y fflyd, WiFi ar gerbydau a llawer mwy.”

Mae gweddill y panel yn cynnwys y canlynol:

O Gaerdydd, Camilla Lovelace sy’n athrawes 52 oed, a Peter Badcock a Ken Anthony sydd ill dau wedi ymddeol; o Aberdaugleddau, David Watts sy’n 84 oed; o Lanelli, Kelvin Stockwell sy’n 66 oed ac sydd wedi ymddeol; o Abertawe, Mike Watson sy’n gyn-athro 64 oed sydd wedi ymddeol; o Bontllan-fraith, Owen Isaac sy’n 76 oed; o Lanilltud Faerdref, Rebecca Gabrielle sy’n wraig tŷ 23 oed; ac o Drefforest, Laura Price sy’n 29 oed. 

Yn ogystal â sicrhau lefelau nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen o fodlonrwydd ymhlith cwsmeriaid, torrodd Traveline Cymru record arall eleni drwy ddarparu dros 500,000 o ddarnau o wybodaeth am deithio i gwsmeriaid mewn un mis drwy ei amrywiol sianelau cyfathrebu, gan gynnwys ei ganolfan alwadau, ei wasanaeth negeseuon testun, ei ap ar gyfer dyfeisiau symudol, ei wefan a’i gyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol.

Meddai Graham Walter, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn gadarnhaol iawn o ran y faith bod lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid wedi bod yn uchel iawn ac o ran nifer y darnau o wybodaeth a ddarparwyd.

“Mae’r cwsmeriaid wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud, felly mae’n hollbwysig ein bod yn cael adborth ganddynt er mwyn adolygu’r prosesau presennol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn gwrando ar anghenion y cwsmeriaid ac yn datblygu ein gwasanaethau o’u cwmpas. Rydym am adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy benodi ein panel cwsmeriaid fel y gallwn barhau i wella lefel y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu. Rydym wrth ein bodd o allu croesawu holl aelodau’r panel, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw.”

Cwmni dielw yw Traveline Cymru sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên ledled y wlad trwy ei wefan ddwyieithog, ei ganolfan alwadau a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer y sawl sy’n defnyddio ffôn symudol. Yn ogystal, mae’n ceisio annog pobl i newid i ddulliau mwy cynaliadwy o deithio drwy ymweld â digwyddiadau, trefnu hyfforddiant a chynnal ymgyrchoedd marchnata.

 

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Lyndsey Jenkins a Jodie Phillips yn jamjar PR, ar 01446 771265 neu jodie@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon