Newyddion

Traveline Cymru rebrand

Ailfrandio Traveline Cymru: Yr arbenigwyr ar wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus

26 Medi 2016

Croeso i wyneb newydd Traveline Cymru! Ar ôl ystyried adborth gan ein cwsmeriaid a’n partneriaid, rydym wedi bod yn gweithio y tu ôl i’r llenni ar ailfrandio cyfres Traveline Cymru o wasanaethau, ac yn awr mae’n bleser gennym lansio ein delwedd newydd sbon!

Mae ein gwefan a’n ap ar gyfer dyfeisiau symudol wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r brand newydd, sy’n cynnwys y lliwiau a’r eiconau newydd sbon.

Ewch draw i’n gwefan, sef www.traveline.cymru, i weld y brand newydd neu lawrlwythwch ein ap ar gyfer dyfeisiau symudol, sydd ar gael yn rhad ac am ddim! Mae’r ap ar gael ar gyfer dyfeisiau iPhone ac Android, a gallwch ei lawrlwytho’n uniongyrchol o’r App Store Google Play.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein rhif Rhadffôn newydd sbon hefyd, sef 0800 464 0000. Mae modd ffonio’r rhif yn rhad ac am ddim a bydd tîm ein canolfan gyswllt ddwyieithog ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych ynghylch cynllunio taith.

Ni yw’r arbenigwyr ar wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, a’n nod yw eich helpu i gynllunio eich teithiau ar y bws neu’r trên yn hwylus, gan eich helpu i ddod o hyd i’r holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch mewn un lle.

Byddem wrth ein bodd yn clywed eich sylwadau am ein brand newydd. Mae croeso i chi anfon unrhyw adborth i marketing@traveline.cymru; byddem yn falch iawn o glywed gennych!

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon