Newyddion

Traveline Cymru introduces freephone 0800 telephone number

Traveline Cymru yn cyflwyno rhif rhadffôn 0800

29 Medi 2016

Mae Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi cyflwyno rhif rhadffôn er mwyn i gwsmeriaid allu defnyddio ei wasanaethau.

Mae’r rhif newydd – 0800 464 0000 – yn un y gellir ei ffonio’n rhad ac am ddim o ffonau symudol yn ogystal â ffonau arferol, ac mae wedi’i ddarparu er mwyn cydnabod y dylai gwybodaeth am wasanaethau cyhoeddus hanfodol o’r fath fod ar gael yn hwylus i bawb yng Nghymru.

Mae gwasanaeth ffôn Traveline Cymru, a ddarperir gan ei ganolfan alwadau ddwyieithog yng Ngwynedd, yn rhannu gwybodaeth am gynllunio teithiau a gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yng Nghymru.

Mae’r ganolfan alwadau, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 10 oed yn 2015, wedi ymdrin â thros 3 miliwn o alwadau yn ystod y degawd diwethaf, sef bron un alwad i bob person sy’n byw yng Nghymru.

Er gwaethaf ymddangosiad technolegau digidol a symudol Traveline Cymru, mae’r ganolfan alwadau’n ymdrin â thua 100,000 o alwadau’r flwyddyn gan ddiwallu anghenion pobl nad oes modd iddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd, pobl sy’n teithio o le i le, teithwyr anabl a’r sawl sy’n cael trafferth defnyddio technolegau modern.

Meddai Jo Foxall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Traveline Cymru: “Rydym wedi newid i rif rhadffôn oherwydd ein bod am sicrhau bod pob un o’n cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar wybodaeth am drafnidiaeth yn rhad ac am ddim – drwy gyfrwng ein holl adnoddau – pan fyddant gartref, yn y gwaith neu’n teithio.

“Rhaid bod y newid hwn yn gam cadarnhaol o safbwynt sicrhau bod ein gwasanaethau’n fwy hygyrch a helpu mwy o bobl i ddewis teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.”

Yn ogystal â newid i rif rhadffôn, mae Traveline Cymru hefyd yn lansio delwedd newydd yn dilyn llawer o ymchwil ymysg ei gwsmeriaid. Mae’r logo gwyrdd ac oren presennol wedi’i ddisodli gan logo coch trawiadol, ac mae slogan newydd wedi’i greu – ‘yr arbenigwyr ar wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus’ – er mwyn adlewyrchu’r gwasanaeth cyfeillgar, hygyrch a defnyddiol y mae Traveline Cymru yn ei ddarparu i’w gwsmeriaid.

Meddai Mrs Foxall: “O safbwynt y ddelwedd newydd, dangosodd ein hymchwil y byddai’n well gan ein cwsmeriaid liwiau a oedd yn adlewyrchu ein treftadaeth yng Nghymru, ac y byddai’n well ganddynt bod y wefan, yr apiau a deunydd darllen arall yn llai prysur yr olwg fel eu bod yn haws eu defnyddio. Mae’r ddelwedd newydd a’r deunydd marchnata sy’n cyd-fynd â hi’n sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol am deithio, mewn dull hygyrch a hawdd ei ddefnyddio sydd wrth fodd y cwsmer. ’

Bydd Traveline Cymru yn darparu dros bum miliwn o ddarnau o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus eleni, sef y nifer fwyaf erioed, gan helpu mwy o bobl i wneud penderfyniadau deallus am y modd y maent yn teithio.

Cwmni dielw yw Traveline Cymru, sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau, prisiau tocynnau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yn y wlad drwy ei wefan ddwyieithog, ei ganolfan alwadau a’i gyfres o wasanaethau i ddefnyddwyr ffonau symudol.

 

Diwedd

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Lyndsey Jenkins neu Shelley Phillips yn jamjar PR, ar 01446 771265 neu shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon