Newyddion

Cardiff Bus logo

Diwrnod Agored Bws Caerdydd i ddathlu Calan Gaeaf

20 Hydref 2016

Bydd cwmni Bws Caerdydd yn agor drysau ei ddepo ar Sloper Road er mwyn cynnal diwrnod dychrynllyd llawn hwyl, ddydd Sul 30 Hydref rhwng 12pm a 4pm, i ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu Bws Caerdydd.

Gall y teulu cyfan fwynhau’r digwyddiad Calan Gaeaf a thaith o gwmpas y depo lle gallwch ddarganfod beth sy’n digwydd yn yr ystafell reoli, ymweld â’r adran beirianneg a chael mynd drwy’r peiriant golchi bysiau.

Bydd ambell beth arswydus yn digwydd hefyd, gan gynnwys cystadleuaeth gwisg ffansi Calan Gaeaf i’r plant, a chyfle i weld rhai o hen fysiau Bws Caerdydd.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ond bydd Bws Caerdydd yn casglu arian ar y dydd i elusen y cwmni, sef Headway Caerdydd.

Ewch i Bws Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd gan dîm Traveline Cymru stondin yn y digwyddiad, felly cofiwch alw heibio i ddweud helo!

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon