Newyddion

Stagecoach gold launch rhondda valley to cardiff

Stagecoach yn troi’n aur yng Nghwm Rhondda!

05 Rhagfyr 2016

  • £4 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn 24 o gerbydau newydd ar gyfer gwasanaeth 132; o Gwm Rhondda i Gaerdydd.
  • Bydd gan y cerbydau newydd gyfleuster Wi-fi rhad ac am ddim, mannau gwefru USB a seddi e-ledr uchel mwy cyffyrddus sydd hefyd yn fwy meddal a moethus a bydd ganddynt lifrai aur arbennig.


Bydd y sawl sy’n teithio ar y bws rhwng Maerdy yng Nghwm Rhondda a Chaerdydd yn gallu teithio mewn mwy o steil a moethusrwydd wrth i Stagecoach yn Ne Cymru lansio ei fflyd ddiweddaraf o fysiau aur moethus yn swyddogol ddydd Gwener 2 Rhagfyr 2016.

Mae buddsoddiad Stagecoach, sy’n werth £4 miliwn, yn golygu y bydd y sawl sy’n teithio ar y bws ar wasanaeth 132 Stagecoach, sy’n mynd drwy’r Porth, Pontypridd a’r Eglwys Newydd tuag at Gaerdydd, yn cael gwasanaeth moethus pum seren diolch i seddi uchel ffug-ledr, mwy o le i’r coesau a chyfleuster Wi-fi rhad ac am ddim a mannau gwefru USB.

Y bysiau aur diweddaraf hyn i gael eu lansio gan Stagecoach yw’r ail fflyd o’i math i gael ei chyflwyno yn y de. Mae gwasanaeth 132 yn ymuno â’r gwasanaeth aur X24 sy’n rhedeg ar hyn o bryd rhwng Blaenafon, y Farteg, Pont-y-pŵl, Cwmbrân a Chasnewydd, a drodd yn wasanaeth aur y llynedd.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Rydym yn parhau i fuddsoddi’n sylweddol yn ein fflyd er mwyn gwella ein gwasanaeth a phrofiad y teithwyr. Mae’r buddsoddiad mewn bysiau newydd ers 2007 (10 mlynedd) wedi cyrraedd £29.4 miliwn wrth i ni gyflwyno 263 o fysiau newydd, ac mae £4 miliwn arall eleni wedi ychwanegu at batrwm cyson o fuddsoddi mewn cludiant i deithwyr yn Ne Cymru. Rydym wedi gweithio gyda’n partner, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a bydd buddsoddiad y Cyngor mewn arosfannau bysiau a chynlluniau sy’n rhoi blaenoriaeth i fysiau ynghyd â’r buddsoddiad mewn bysiau newydd yn sicrhau gwelliant sylweddol i gwsmeriaid sy’n defnyddio bysiau yn ardal Rhondda Fach.”

Mae ein bysiau aur wedi’u dylunio i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid. Rydym yn cydnabod bod ein cwsmeriaid yn gwerthfawrogi defnyddio cyfleusterau Wi-fi rhad ac am ddim a mannau gwefru USB a mwy o foethusrwydd ar deithiau megis y daith o Faerdy i Gaerdydd. Yn rhan o’n gwasanaeth aur rydym yn sicrhau y caiff pob un o’n gyrwyr eu hyfforddi i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaen i gwsmeriaid. Bydd ein tîm o yrwyr rheolaidd a brwd yn eich helpu, p’un a ydych yn teithio ar y gwasanaeth am y tro cyntaf neu’n deithiwr rheolaidd, a bydd y cyffyrddiadau o foethusrwydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth sicrhau bod pawb yn cael taith fwy pleserus a chynhyrchiol gyda’r cyfleuster Wi-fi rhad ac am ddim a’r mannau gwefru USB.”

I ddathlu’r lansiad swyddogol, roedd bws newydd mewn lifrau aur i’w weld yng nghanol tref Pontypridd, er mwyn i gwsmeriaid gael cip arno cyn iddo ddechrau cludo teithwyr ddydd Llun 5 Rhagfyr. Cafodd y gwasanaeth newydd ei lansio gan y Cynghorydd Mark Norris, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Cafodd teithwyr a phobl oedd yn cerdded heibio eu gwahodd i dynnu llun ar y bws, a rhoddwyd nwyddau ‘aur’ am ddim iddynt.

Meddai’r Cynghorydd Mark Norris, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae rhai o’r cerbydau mwyaf newydd yn Ne Cymru yn teithio drwy Rondda Cynon Taf, ac mae’n bwysig bod y Cyngor yn parhau i weithio gyda’i bartneriaid gweithredu drwy fuddsoddi yn yr un modd mewn adnewyddu ei gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus.

“Rwyf wrth fy modd yn cael lansio gwasanaeth bws aur newydd Stagecoach, oherwydd mae hwn yn gam arall ymlaen yn y broses o ddarparu gwasanaethau i breswylwyr y Cymoedd, ac mae’n ategu’r bysiau llawr isel a’r buddsoddiad parhaus sy’n cael ei wneud i wella arosfannau bysiau ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Fel Cyngor, rydym yn buddsoddi’n sylweddol yn ein seilwaith trafnidiaeth a phriffyrdd, a byddwn yn parhau i gefnogi ein partneriaid, megis Stagecoach, a chydweithio â nhw i sicrhau bod ein preswylwyr yn cael y gwasanaeth trafnidiaeth safon “aur” y maent yn ei haeddu. Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu i gyflawni hynny, ac y bydd hefyd yn helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd gan y bydd yn haws teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i Bontypridd a thu hwnt.”

Mae gan bob un o fysiau aur un llawr Stagecoach injan Euro 6 sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, sydd wedi’i ddylunio i leihau allyriadau o’r ecsôst. Mae’r fflyd hefyd yn defnyddio cymysgedd mwy gwyrdd o danwydd sy’n cynnwys 30% o fiodanwydd sydd wedi’i ailgylchu a 70% o ddiesel sydd â lefel isel o sylffwr er mwyn lleihau allyriadau CO2.

Bydd pedwar ar hugain o fysiau aur Stagecoach newydd sbon yn rhedeg ar hyd llwybr 132 bob 12 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn ystod y dydd, a phob hanner awr drwy’r rhan fwyaf o’r dydd ar ddydd Sul.

Mae defnyddio bysiau aur Stagecoach yn hwylus iawn, gan fod y llawr isel yn golygu ei bod yn haws i’r sawl sy’n defnyddio cadair olwyn a chadair wthio. Gellir cludo cadair olwyn ar bob cerbyd yn ddiogel, ac mae’r gyrwyr wedi’u hyfforddi i ddarparu cymorth os bydd angen.


DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon