Newyddion

Cyfle i ddweud eich dweud am Strategaeth Drafnidiaeth Caerdydd

Cyfle i ddweud eich dweud am Strategaeth Drafnidiaeth Caerdydd

10 Ionawr 2017

Wedi i’r Cabinet gymeradwyo Strategaeth Drafnidiaeth Caerdydd, mae’r Awdurdod am gael barn y cyhoedd ynghylch a ddeallwyd y strategaeth yn llawn.

Gellir cael mynediad i’r arolwg byr yn Gymraeg ac yn Saesneg drwy’r dolenni cyswllt canlynol:

https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=148119156864 (Cymraeg) neu https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=148000232274 (Saesneg).

Fel arall, gellir gofyn am gopi caled o’r arolwg drwy e-bostio travelplans@cardiff.gov.uk

Gellir gweld y strategaeth yma: http://www.cadwcaerdyddisymud.co.uk/transport-strategy  

Dylid cyflwyno ymatebion erbyn 17 Chwefror 2017.

 

Mae’r strategaeth yn amlinellu blaenoriaethau Cyngor y Ddinas i annog pobl i gerdded a beicio, gwella’r dewisiadau sydd ar gael o ran trafnidiaeth gyhoeddus, a chefnogi gwaith Llywodraeth Cymru o ddatblygu system Fetro yn y dyfodol.

Bwriad y ddogfen newydd yw esbonio dyfodol trafnidiaeth yng Nghaerdydd wrth i’r ddinas geisio bod y brifddinas orau yn Ewrop i fyw ynddi.

Mae’n egluro’r prif brosiectau a chamau gweithredu y bydd y Cyngor yn ymgymryd â nhw wrth iddo geisio gwella rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd ac annog preswylwyr, cymudwyr ac ymwelwyr i roi’r gorau i deithio mewn car preifat a dechrau defnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio – drwy gerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r blaenoriaethau o ran trafnidiaeth a gaiff eu hegluro yn y ddogfen hon yn cynnwys y canlynol:

  • Prosiect METRO Llywodraeth Cymru
  • Datblygu system dramiau ar y stryd sy’n gysylltiedig â’r rhwydwaith Metro rhanbarthol ehangach
  • Gwell llwybrau a gwasanaethau bysiau yng Nghaerdydd ac ar lwybrau sy’n croesi ffiniau
  • Rhwydwaith beicio strategol
  • Rheoli’r rhwydwaith priffyrdd yn well
  • Gwella’r rhwydwaith trenau
  • Y gyfnewidfa fysiau newydd yn y Sgwâr Canolog
  • Coridor trafnidiaeth newydd drwy Ogledd-orllewin Caerdydd
  • Gwella llwybrau i gerddwyr
  • Gwella’r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus
  • Gwella cyfleusterau parcio a theithio
  • Cyfnewidfa fysiau a threnau Gorllewin Caerdydd
  • Gwelliannau i dechnoleg a bysiau sy’n garedig i’r amgylchedd.

 

Er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau hyn bydd y Cyngor yn gweithio gydag ystod o sefydliadau partner, gan gynnwys datblygwyr, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, cymuned fusnes Caerdydd, awdurdodau lleol cyfagos, Llywodraeth Cymru, y sector iechyd a chyrff cyhoeddus allweddol eraill.

Mae Caerdydd yn parhau i dyfu o ran nifer y bobl sy’n byw yma a nifer y bobl sy’n teithio i’r ddinas i weithio. Ers 2004, gwelwyd cynnydd o 10% yn nifer y bobl sy’n teithio i Gaerdydd i weithio bob dydd o ardaloedd cyfagos – mae’r nifer wedi codi o 74,600 i 81,800. Wrth i’r boblogaeth barhau i dyfu ac wrth i ragor o bobl deithio i Gaerdydd i weithio, mae Cyngor y Ddinas wedi ymrwymo i hybu ac annog dulliau amgen o deithio, heblaw’r car preifat.

DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon