Newyddion

Met Office issue yellow warning of snow across Wales

Y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi rhybudd melyn ynghylch eira ledled Cymru

11 Ionawr 2017

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ynghylch eira ledled Cymru o ddydd Iau 12 Ionawr i ddydd Gwener 13 Ionawr.

Mae’r manylion llawn i’w gweld ar wefan y Swyddfa Dywydd yma.

Gallwch hefyd weld rhagolygon y tywydd ar gyfer yr ychydig ddiwrnodau nesaf ar wefan y BBC yma.

Disgwylir cawodydd eira ar draws y canolbarth o oriau mân y bore ddydd Iau, a disgwylir i gawodydd trwm o law ac eira effeithio ar weddill y wlad drwy gydol y dydd.

Byddwn yn rhannu gwybodaeth â chi am unrhyw broblemau ar drafnidiaeth gyhoeddus wrth iddi ddod i law. Gallwch ein dilyn ar Twitter @TravelineCymru lle byddwn yn rhannu negeseuon trydar gan weithredwyr a chynghorau lleol drwy gydol y dydd.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich gwasanaeth trên, cyn i chi deithio, ar wefan Trenau Arriva Cymru yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon