Newyddion

Stageocoach annouce January service changes

STAGECOACH YN CYHOEDDI NEWIDIADAU I WASANAETHAU YM MIS IONAWR

17 Ionawr 2017

Mae rhai gwasanaethau’n newid yn ardaloedd Blaenau Gwent, Trecelyn, Tref Cwmbrân a Bryn-mawr er mwyn gwella dibynadwyedd.

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i wasanaethau ar hyd llwybrau bysiau yn ardaloedd Blaenau Gwent, Tref Cwmbrân, Trecelyn a Bryn-mawr, a fydd yn dod i rym ddydd Llun 16 Ionawr 2017.

Yn dilyn cyfnod o ddadansoddi teithiau’n fanwl, gwneud gwaith monitro ar ochr ffyrdd ac adolygu adborth cwsmeriaid, bydd y gwasanaethau hyn yn newid er mwyn gwella’r rhwydwaith bysiau. Mae cynrychiolwyr o’r cwmni wedi cyfarfod ac ymgynghori â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili er mwyn trafod y newidiadau a wnaed a fydd yn effeithio ar wasanaethau yn yr ardal dan sylw.

Bydd gwasanaeth X18 a gwasanaeth 22 yn cael eu disodli gan wasanaeth cyflym newydd X22, a fydd yn mynd o Lynebwy i Gwmbrân drwy Ganolfan Siopa Festival Park, Trecelyn a Phont-y-pŵl. Bydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Caiff gwasanaethau amgen eu darparu fel a ganlyn:

  • Rhwng Glynebwy, Canolfan Siopa Festival Park, Cwm a Threcelyn – defnyddiwch y gwasanaeth newydd X22.
  • Rhwng Crymlyn, Trecelyn, West End, Crosskeys, Rhisga, Morrisons Tŷ-du, Ysbyty Brenhinol Gwent a Chasnewydd – defnyddiwch wasanaeth X15.
  • Rhwng Morrisons Tŷ-du a Chasnewydd – defnyddiwch wasanaeth X15.
  • Rhwng Trinant, Crymlyn a Threcelyn – defnyddiwch wasanaeth 52.
  • Rhwng Trinant a Glynebwy – defnyddiwch wasanaeth 52 i Sgwâr Aber-big, yna newidiwch i wasanaeth E3.
  • Rhwng Trinant ac Ysgol Gyfun Trecelyn – defnyddiwch wasanaeth 95C yn y bore a gwasanaeth 52 yn y prynhawn.
  • Rhwng Trinant a Choed-duon – defnyddiwch wasanaeth 5A.

Bydd amserlenni gwasanaethau 5A, 12, 50, 52, 56, 151, X15 Blaenau Gwent a Threcelyn, gwasanaethau 80D, 1, 5, 6, 15, X24 Tref Cwmbrân a gwasanaethau X20, E2 ac E3 Bryn-mawr yn newid er mwyn gwella dibynadwyedd.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Mae’r newidiadau yr ydym yn eu gwneud wedi’u seilio yn uniongyrchol ar waith dadansoddi teithiau [patrymau defnydd cwsmeriaid], a chan ddefnyddio data o’n system amser real rydym wedi gwneud newidiadau i amseroedd bysiau er mwyn gwella prydlondeb gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid. Bydd y newidiadau hyn yn darparu gwasanaethau bws cynaliadwy a mwy prydlon yn yr ardal, a fydd yn parhau i gludo teithwyr i’r un mannau, a bydd ein tocynnau Dayrider a Megarider rhesymol yn cynnig opsiynau teithio heb gyfyngiadau. Erbyn hyn, mae Ap Stagecoach yn gallu darparu amseroedd eich bysiau Stagecoach lleol i chi mewn amser real, yn syth i’ch ffôn clyfar.”

Mae’r holl amserlenni newydd, yr holl wybodaeth am newidiadau i wasanaethau a’r holl faneri i’w gweld ar wefan Stagecoach, Ap Stagecoach a Twitter, ochr yn ochr â deunydd print mwy traddodiadol ar gyfer y sawl na fyddant efallai’n gweld y wybodaeth.

https://www.stagecoachbus.com/promos-and-offers/south-wales/service-changes-january-2017

DIWEDD

I gael gwybod mwy am Stagecoach, ewch i www.stagecoachbus.com neu lawrlwythwch ein Ap http://stge.co/b2Sr304MNpg

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon