Newyddion

The plan to double the amount of cyclists using Cardiff's roads

Y cynllun i ddyblu nifer y beicwyr sy’n defnyddio ffyrdd Caerdydd

17 Ionawr 2017

Mae cynlluniau i ddyblu nifer y beicwyr sydd ar ffyrdd Caerdydd erbyn 2026 wedi cael eu datgelu.

Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi llunio cynllun er mwyn cyflawni ei amcan, sef bod Caerdydd yn ddinas lle mae beicio’n arfer normal ac ymarferol i bobl o bob oed a gallu ar gyfer teithiau byr.

Yn rhan o’r amcan hwnnw, mae’r cyngor am ddyblu nifer y teithiau ar feic a gyflawnir yn y ddinas erbyn 2026.

Erbyn 2026, disgwylir y bydd poblogaeth Caerdydd wedi cynyddu 79,918 ac y bydd nifer y swyddi sydd yn y ddinas wedi cynyddu 40,000.

Er mwyn ymdopi â’r cynnydd hwnnw, mae’r awdurdod eisoes wedi llunio cynllun ar gyfer tai – y Cynllun Datblygu Lleol – ac yn ddiweddar cyhoeddodd fapiau o lwybrau cerdded a beicio sydd wedi’u gwella.

Mae’r ddogfen ddiweddaraf hon yn egluro’r heriau y mae angen eu goresgyn er mwyn cael rhagor o bobl i feicio.

Yn ôl yr awdurdod, mae cael pobl i ddechrau beicio yn helpu i wella eu hiechyd ac yn gwella ansawdd bywyd i breswylwyr.

Darllenwch yma os hoffech gael gwybod mwy am y cynllun a gweld y llwybrau beicio a cherdded y mae’r cyngor wedi’u cynnig.

Ffynhonnell yr erthygl: Wales Online

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon