Newyddion

Traveline Cymru breaks records with 5m pieces of information delivered

Traveline Cymru yn dathlu ar ôl darparu 5 miliwn o ddarnau o wybodaeth

02 Chwefror 2017

Mae Traveline Cymru yn dathlu’r flwyddyn orau erioed, lle llwyddodd i ddarparu dros bum miliwn o ddarnau o wybodaeth am deithio. 

Yn ôl ei adroddiad diwedd blwyddyn, darparodd gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus Llywodraeth Cymru fwy o wybodaeth nag erioed, gyda chyfanswm o 5,717,612 o ddarnau o wybodaeth yn 2016, sydd bron yn ddwbl y cyfanswm ar gyfer 2015.

Gwybodaeth a ddarperir drwy’r wefan sydd i gyfrif am y cynnydd mwyaf – dosbarthodd Traveline Cymru dros 1.5 miliwn yn rhagor o ddarnau o wybodaeth drwy’r wefan, o gymharu â 2015.

Gwelwyd twf sylweddol hefyd yn y defnydd o ap Traveline Cymru ar gyfer ffonau symudol, gyda chynnydd o 19.9% yn y defnydd o gymharu â chynnydd o 9.7% y flwyddyn flaenorol.

Meddai Jo Foxall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Traveline Cymru: “Rydym wrth ein bodd â chanlyniadau’r flwyddyn ddiwethaf. Rydym wedi gweld gwelliant cyson o’r naill flwyddyn i’r llall, ac mae’r ffigurau diweddaraf yn neilltuol. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi yn ein gwefan a llwyfannau digidol, o ganlyniad i adborth gan ein cwsmeriaid, ac mae hynny’n dwyn ffrwyth. Mae’r cwsmer bob amser wedi bod wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud, ac rydym yn gweithio’n  ddiwyd i sicrhau bod modd iddynt gael mynediad i wybodaeth hanfodol am drafnidiaeth ble bynnag y bônt, ar unrhyw adeg, heb unrhyw gostau ychwanegol.”

Mae’r canlyniadau gorau erioed yn dilyn y sgorau uchaf erioed o ran bodlonrwydd cwsmeriaid yn gynharach yn 2016. O blith defnyddwyr y ganolfan gyswllt a gymerodd ran yn yr arolwg, roedd 97% ‘yn fodlon iawn/yn eithaf bodlon’ â’r gwasanaeth a gawsant, ac roedd 93% o’r ymatebwyr yn debygol o ddefnyddio gwefan Traveline Cymru eto.

Daw’r canlyniadau hyn yn dilyn lansio gwasanaeth rhadffôn newydd, y bwriedir iddo ddarparu cymorth hollbwysig, gwybodaeth am amserlenni a chyngor ynghylch cynllunio teithiau i’r sawl sydd wedi’u hallgáu yn ddigidol. Yn ogystal â newid i rif rhadffôn, mae Traveline Cymru hefyd yn lansio delwedd newydd yn dilyn llawer o ymchwil ymysg ei gwsmeriaid.

Aeth Jo yn ei blaen: “Roedd 2016 yn flwyddyn allweddol i ni, gyda’r canlyniadau o ran bodlonrwydd cwsmeriaid a lansio’r rhif 0800 newydd. Rydym yn edrych ymlaen yn awr at flwyddyn arall o wella’r graddau y mae gwybodaeth am drafnidiaeth ar gael i bawb yng Nghymru.”

Cwmni dielw yw Traveline Cymru, sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yn y wlad drwy ei wefan ddwyieithog, ei ganolfan alwadau a’i gyfres o wasanaethau i ddefnyddwyr ffonau symudol.

Diwedd

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Shelley Phillips neu Lyndsey Jenkins yn jamjar PR, ar 01446771265 neu Shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon