Newyddion

Traveline Cymru Freephone Launch Senedd Lee Waters

Lee Waters AC yn cefnogi camau i sicrhau bod gwasanaethau teithio’n fwy hygyrch

08 Chwefror 2017

Mae Lee Waters, AC Llanelli wedi datgan ei gefnogaeth i gynlluniau i wella hygyrchedd gwasanaethau teithio, yn ystod digwyddiad cyhoeddus yn y Senedd.

Roedd gwleidydd Llafur Cymru yn bresennol yn ‘Gwybodaeth i bawb am deithio’, sef digwyddiad Traveline Cymru i lansio ei wasanaeth Rhadffôn newydd yn swyddogol.

Mae’r rhif newydd - 0800 464 0000 - yn un y gellir ei ffonio’n rhad ac am ddim o ffonau symudol yn ogystal â ffonau arferol, ac mae wedi’i ddarparu er mwyn cydnabod y dylai gwybodaeth am wasanaethau cyhoeddus hanfodol o’r fath fod ar gael yn hwylus i bawb yng Nghymru.

Nod y gwasanaeth Rhadffôn yw darparu cymorth hanfodol, amserlenni a chyngor ynghylch cynllunio teithiau i’r sawl a gaiff eu hallgáu’n ddigidol. Mae hynny’n golygu bod unigolion megis pobl hŷn, pobl anabl a’r sawl sydd ag anawsterau dysgu’n gallu cael mynediad i wybodaeth am drafnidiaeth unrhyw bryd, yn ogystal â phobl nad ydynt yn gallu fforddio band eang neu ddyfeisiau symudol.

Meddai Mr Waters yn ystod y digwyddiad: “Mae Traveline Cymru wedi chwarae rôl allweddol yn y maes hwn ers llawer o flynyddoedd, ond rwy’n credu bod llawer o botensial i’w wireddu o hyd. Rwy’n falch iawn o allu hyrwyddo gwaith y cwmni.”

Mae gwasanaeth ffôn Traveline Cymru, a ddarperir gan ei ganolfan alwadau ddwyieithog yng Ngwynedd, yn rhannu gwybodaeth am gynllunio teithiau a gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yng Nghymru.

Mae’r ganolfan alwadau, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 10 oed yn 2015, wedi ymdrin â thros 3 miliwn o alwadau yn ystod y degawd diwethaf, sef bron un alwad i bob person sy’n byw yng Nghymru.

Er gwaethaf ymddangosiad technolegau digidol a symudol Traveline Cymru, mae’r ganolfan alwadau’n ymdrin â thua 100,000 o alwadau’r flwyddyn gan ddiwallu anghenion pobl nad oes modd iddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd, pobl sy’n teithio o le i le, teithwyr anabl a’r sawl sy’n cael trafferth defnyddio technolegau modern.

Bu Dr Victoria Winckler, sy’n aelod o fwrdd Traveline Cymru ac yn gyfarwyddwr Sefydliad Bevan, yn siarad yn y digwyddiad gan ddweud: “Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i wead Cymru, ac mae’n un o’r gwasanaethau a gaiff eu hesgeuluso. Bob blwyddyn caiff 101 miliwn o deithiau bws ac 20 miliwn o deithiau trên eu cyflawni ledled Cymru, sy’n galluogi pobl i fyw eu bywydau.

“Mae gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yr un mor bwysig â’r gwasanaethau eu hunain. Heb amserlen nid yw bws neu drên yn ddim byd ond cerbyd ar olwynion, ac mae cael gafael ar wybodaeth yn gallu bod yn anodd yn aml. Dyna pam y mae Traveline Cymru gennym – mae’n wasanaeth dibynadwy, hygyrch a phersonol.”

Meddai Jo Foxall, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Traveline Cymru: “Er bod y byd yn mynd yn fwyfwy digidol, mae galw mawr o hyd am wasanaethau traddodiadol. Mae’n hawdd iawn cymryd yn ganiataol bod gan bawb ffôn clyfar neu gyfrifiadur, ond rydym yn cydnabod nad yw hynny’n wir. Mae’r rhif Rhadffôn newydd yn hanfodol i ddarparu cymorth i bobl sy’n methu â defnyddio ein gwasanaethau ar-lein.

“Rydym am sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar ein gwybodaeth unrhyw bryd heb orfod talu mwy amdani. Rydym am annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd o le i le, ac rydym yn gobeithio bod y rhif Rhadffôn newydd yn symleiddio’r broses o ddod o hyd i wybodaeth hanfodol am drafnidiaeth. Rydym hefyd yn falch o ddarparu gwasanaeth cynllunio teithiau ar feic ac ar droed yn rhan o’r gwasanaeth hwn, i’r sawl sy’n mynd o le i le’n barhaus.”

Cwmni dielw yw Traveline Cymru, sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau, prisiau tocynnau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yn y wlad drwy ei wefan ddwyieithog, ei ganolfan alwadau a’i gyfres o wasanaethau i ddefnyddwyr ffonau symudol.

 

DIWEDD

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Lyndsey Jenkins neu Shelley Phillips yn jamjar PR, drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon