Newyddion

Stagecoach Bus

Gyrwyr bysiau Stagecoach gyda’r gorau mewn cynllun i hybu gyrru’n ddiogel gan arbed tanwydd

02 Mawrth 2017

  • 142 o yrwyr Stagecoach yn Ne Cymru yn ennill statws ‘Fleet Elite’ gan GreenRoad
  • Cynnydd o 5% yn nifer y gyrwyr sydd gan y cwmni sy’n cyrraedd y safon elît
  • Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, Stagecoach UK â mwy o yrwyr sy’n cyrraedd y meincnod nag unrhyw gwmni ac unrhyw weithredwr bysiau arall
  • System delemateg soffistigedig yn gwirio dulliau gyrru yn gyson
  • Y system yn helpu i sicrhau 3% o welliant yn y graddau y caiff tanwydd ei ddefnyddio’n effeithlon ar draws ei weithrediadau o safbwynt bysiau yn y DU

Mae gweithwyr bysiau Stagecoach yn arwain y ffordd mewn cynllun byd-eang i fesur perfformiad, sy’n asesu’r graddau y mae gyrwyr yn gyrru’n ddiogel gan arbed tanwydd.

Mae cyfanswm o 142 o yrwyr Stagecoach yn Ne Cymru wedi ennill statws ‘Fleet Elite’ dan y rhaglen a gaiff ei rheoli gan GreenRoad, y mae ei system delemateg yn gwasanaethu gyrwyr proffesiynol yn y DU, Iwerddon, Ewrop, y Dwyrain Canol, America, Awstralia a Seland Newydd.

Mae dros 50 o yrwyr ‘Fleet Elite’ wedi cael y bathodyn Aur oherwydd eu bod yn cyrraedd y safon ‘Fleet Elite’ yn gyson am yrru’n ddiogel gan arbed tanwydd. 

Gan ddefnyddio system LED ar y dangosfwrdd, sy’n seiliedig ar oleuadau traffig, mae GreenRoad yn rhoi adborth yn syth i yrwyr am eu dulliau gyrru, gan eu hannog i yrru’n fwy esmwyth ac yn fwy diogel gan arbed tanwydd. Rhaid i yrwyr y safon ‘Fleet Elite’ yrru am dros 500 o oriau mewn blwyddyn a sicrhau, am bob 10 awr y maent yn gyrru yn ystod y flwyddyn galendr, eu bod yn gyfrifol ar gyfartaledd am bump neu lai o achosion o fynd yn groes i arfer gorau, er enghraifft drwy arafu neu gyflymu’n rhy sydyn.

Gyrwyr Stagecoach UK yw bron hanner y 9,930 o yrwyr ledled y byd a gyrhaeddodd y safon ‘Fleet Elite’ yn 2016. Llwyddodd Stagecoach UK i sicrhau bod ganddo fwy o weithwyr â statws ‘Fleet Elite’ nag unrhyw weithredwr bysiau arall – neu unrhyw gwmni arall sy’n perthyn i’r cynllun – yn y DU a ledled y byd.

Mae oddeutu 19% o’r 19,000 a mwy o yrwyr sydd gan Stagecoach yn y DU wedi cyrraedd y meincnod hwn y mae bri mawr yn perthyn iddo.

Mae system GreenRoad wedi’i gosod ar bob un o gerbydau Stagecoach ym mhob un o gwmnïau bysiau’r Grŵp. System ar y dangosfwrdd ydyw, sy’n seiliedig ar oleuadau traffig, ac mae’n darparu adborth yn syth i yrwyr y cwmni er mwyn eu hannog i yrru’n fwy esmwyth ac yn fwy diogel.

Mae ymchwil gan GreenRoad yn dangos, mewn achosion eithafol, mai penderfyniadau ynghylch dulliau gyrru sy’n gyfrifol am hyd at 33% o’r arian a gaiff ei wario ar danwydd. Gall hyd yn oed gyrwyr proffesiynol profiadol sicrhau gwelliant o 4% yn y graddau y maent yn defnyddio tanwydd yn effeithlon, o gael yr arweiniad cywir. Hyd yma, mae’r defnydd a wneir o system GreenRoad ynghyd â rhaglen Stagecoach o hyfforddiant cynhwysfawr i yrwyr wedi helpu i sicrhau 3% o welliant yn y graddau y caiff tanwydd ei ddefnyddio’n effeithlon ar draws gweithrediadau Stagecoach yn y DU.

Mae pob gweithiwr sy’n cyrraedd y safon ‘Fleet Elite’ yn cael bathodyn arbennig i gydnabod eu llwyddiant.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Mae’r llwyddiant hwn yn adlewyrchu’r hyfforddiant trylwyr y mae ein gyrwyr yn ei gael yn ogystal â’r ymrwymiad a’r proffesiynoldeb a welir ymhlith ein gweithwyr o ddydd i ddydd.

“Mae gyrru’n fwy esmwyth gan arbed tanwydd yn ddull mwy diogel o yrru, mae’n sicrhau teithiau mwy cyffyrddus i’n cwsmeriaid ac mae hefyd yn helpu i leihau ein hôl troed carbon.”

Yn ogystal mae Stagecoach wedi ategu ei filiynau o bunnoedd o fuddsoddiad yn nhechnoleg GreenRoad drwy gyflwyno cronfa o daliadau bonws blynyddol i’w yrwyr. Gall gweithwyr y cwmni ennill ‘pwyntiau gwyrdd’ am yrru mewn modd sy’n fwy caredig i’r amgylchedd, a chaiff y pwyntiau hynny eu troi’n fonws ariannol. Yn 2016, cafodd gwerth tua £1.1 miliwn o daliadau bonws eu talu i yrwyr Stagecoach UK.

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi buddsoddi bron £30 miliwn dros y 10 mlynedd diwethaf mewn dros 260 o fysiau newydd yng Nghymru. Mae’r cerbydau hyn yn lanach ac yn fwy caredig i’r amgylchedd, ac mae llawer ohonynt yn cynnig Wi-Fi am ddim a phwyntiau gwefru dyfeisiau symudol.

I gael rhagor o wybodaeth am fysiau Stagecoach UK, ewch i www.stagecoachbus.com

DIWEDD

Dylai unrhyw ymholiadau gan y cyfryngau gael eu cyfeirio at Dîm Cyfathrebu Grŵp Stagecoach, drwy ffonio 01738 442111 neu ebostio media@stagecoachgroup.com

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon