Newyddion

CTA logo

Y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yn penodi Cyfarwyddwr newydd i Gymru

25 Ebrill 2017

Mae’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi penodi Cyfarwyddwr newydd i Gymru, sef Christine Boston. Mae datganiad y Gymdeithas i’w weld isod.

Fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn recriwtio'n ddiweddar am Gyfarwyddwr newydd i arwain gwaith CTA yng Nghymru. Mae hi'n bleser mawr gennyf roi gwybod ichi ein bod wedi penodi Christine Boston ac rwy'n siŵr y byddwch i gyd yn mwynhau gweithio gyda hi.

Ar hyn o bryd, mae Christine yn Arweinydd Polisi Corfforaethol yng Nghyngor Dinas Caerdydd ac mae eisoes wedi bod yn llwyddiannus iawn yn gwneud i gludiant fod yn hygyrch ac yn gynhwysol drwy ei swydd flaenorol yn arwain polisi ac ymchwil yn Chwarae Teg. Yno buodd hi’n arwain ymgyrchoedd arwyddocaol a enillodd wobrau, gan wella mynediad at gludiant drwy werthu tocynnau mewn ffordd decach a mwy hyblyg.

Hefyd, mae Christine yn gwybod sut mae gweithio'n effeithiol gyda'n sefydliadau gwleidyddol yng Nghymru a bydd yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o greu hyd yn oed mwy o ddiddordeb a buddsoddiad yn y cyfraniad yr ydych chi'n ei wneud i weddnewid bywydau a chymunedau.

Bydd Christine yn dechrau ganol mis Mai, ymhen tair wythnos yn unig, a bydd hi’n cysylltu i gyflwyno'i hun bryd hynny.

Yn y cyfamser, mae Christine wedi gofyn imi drosglwyddo'r neges hon i'n haelodau a'n cefnogwyr yng Nghymru:

"Gan fy mod i’n angerddol dros gludiant a chynhwysiant, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda staff ac aelodau i symud yr agenda dros gludiant cymunedol yng Nghymru yn ei blaen.  Mae hwn yn gyfnod pwysig wrth inni wynebu heriau economaidd a gwleidyddol arwyddocaol. Fodd bynnag, gyda heriau, daw cyfle, a'm blaenoriaeth fydd codi ymwybyddiaeth o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud ar draws y sector a'r gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i fywydau pobl."

Rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd yn ymuno â mi wrth groesawu Christine i CTA.

Cofion gorau,

Bill Freeman, Chief Executive CTA

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon