
Rownd Derfynol a Gŵyl Cynghrair y Pencampwyr UEFA. 1 – 4 Mehefin 2017
17 Mai 2017Bydd Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 3 Mehefin 2017 yn Stadiwm Genedlaethol Cymru (Stadiwm Principality).
O 1 - 4 Mehefin 2017, bydd Caerdydd yn gartref i ystod o gemau cyffrous ac amrywiaeth o adloniant ar draws y ddinas, sy’n cynnwys:
1 – 4 Mehefin – Gŵyl y Pencampwyr UEFA ym Mae Caerdydd
1 Mehefin – Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA i ferched yn Stadiwm Dinas Caerdydd
3 Mehefin - Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn Stadiwm Genedlaethol Cymru
Bydd hyd at 170,000 o bobl ychwanegol yn teithio i Gaerdydd yn ystod y cyfnod hwn, a disgwylir mai hwn fydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf a phrysuraf erioed i Gaerdydd ei gynnal.
DYDD SADWRN 3 MEHEFIN 2017 FYDD Y DIWRNOD PRYSURAF O RAN TRAFNIDIAETH
Oherwydd maint y digwyddiad, bydd gwasanaethau trafnidiaeth o gwmpas y ddinas yn hynod o brysur, yn enwedig ddydd Sadwrn 3 Mehefin. Bydd llawer iawn o ffyrdd wedi’u cau ar draws y ddinas am resymau diogelwch ac er mwyn rheoli’r nifer enfawr o ymwelwyr â’r ddinas.
YMWADIAD: Mae’n debygol y bydd problemau teithio a newidiadau munud olaf i drafnidiaeth ar y dydd. Byddwn yn diweddaru ein gwybodaeth am gynllunio teithiau gystal ag y gallwn cyn y digwyddiad, fodd bynnag er mwyn gweld unrhyw newidiadau munud olaf yn ystod wythnos y digwyddiad, ewch i wefan swyddogol Caerdydd 2017 yma.
Dilynwch ni ar Twitter ar @TravelineCymru lle byddwn yn aildrydar yr holl wybodaeth bwysig am deithio gan weithredwyr. Gallwch hefyd ddilyn sianel swyddogol Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA ar Twitter ar gyfer gwybodaeth a chyngor am deithio, sef @Cardiff17Travel.
Os nad ydych yn siŵr ynghylch unrhyw wybodaeth, gallwch hefyd ein ffonio ni ar ein rhif rhadffôn 0800 464 0000 a bydd ein tîm o staff dwyieithog wrth law i helpu. Rydym ar agor bob dydd o 7am tan 8pm.
Isod ceir mwy o wybodaeth am drafnidiaeth ar gyfer y digwyddiad:
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS
CAU FFYRDD
DIOGELWCH
CYNLLUNIO YMLAEN LLAW A CHYNGHORION
MYND I’R DIGWYDDIAD
TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS
TEITHIO AR Y TRÊN
TRENAU ARRIVA CYMRU
I gael gwybodaeth am deithiau a manylion llawn, ewch i wefan Trenau Arriva Cymru yma.
Ddydd Sadwrn 3 Mehefin yn benodol, sef diwrnod Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA, mae disgwyl i wasanaethau trên fod yn hynod o brysur hyd at oriau mân fore dydd Sul.
Gwiriwch eich cynlluniau cyn teithio ar www.arrivatrains.wales neu www.gwr.com
GORSAFOEDD TRENAU
Bydd nifer o newidiadau i’r modd y bydd gorsafoedd Caerdydd yn gweithredu yn ystod y digwyddiad. I gael gwybodaeth am y newidiadau hyn i’r gorsafoedd trenau, cliciwch yma.
TEITHIO AR Y BWS
Mae manylion gwasanaethau bysiau lleol i’w cadarnhau. Byddwn yn diweddaru’r adran hon cyn gynted ag y bydd y wybodaeth ar gael, neu mae croeso i chi gysylltu â’ch gweithredwr lleol.
CAU FFYRDD
Bydd ffyrdd ar gau a dargyfeiriadau mewn grym yng nghanol y ddinas ddydd Sadwrn 3 Mehefin, ac o gwmpas Bae Caerdydd a Stryd y Castell o 1 i 4 Mehefin. Gweler y map isod i weld pa rai o ffyrdd y ddinas fydd ar gau ar ba ddyddiadau. Gallwch hefyd fynd i wefan Caerdydd 2017 yma i gael rhagor o fanylion am y ffyrdd y bwriedir eu cau.
Cliciwch yma i weld fersiwn mwy o faint o’r map.
DIOGELWCH
Hwn fydd yr ymgyrch diogelwch mwyaf erioed i gael ei gynnal yng Nghaerdydd, a bydd plismyn a staff ychwanegol o bob cwr o’r wlad yn dod i’r ardal er mwyn helpu i blismona’r digwyddiad.
Mae Heddlu De Cymru a phartneriaid yn cynllunio ymlaen er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn ddiogel, ei fod amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar wasanaethau lleol ac yn cael cyn lleied o effaith ag sy’n bosibl ar gymunedau a busnesau lleol.
I gael gwybodaeth lawn am ddiogelwch ar gyfer y digwyddiad, cliciwch yma.
CYNLLUNIO YMLAEN LLAW A CHYNGHORION
Fe’ch cynghorir i osgoi teithio ddydd Sadwrn 3 Mehefin, oni bai bod eich taith yn hanfodol. Os byddwch yn teithio ar y diwrnod hwnnw, sicrhewch eich bod yn caniatáu mwy o amser ar gyfer eich taith.
Gyda’r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd o 1 i 4 Mehefin, gall fod yn gyfle gwych i fwynhau’r awyrgylch a manteisio ar y gweithgareddau a’r adloniant sy’n gysylltiedig â Chynghrair y Pencampwyr. Cynlluniwch eich taith ymlaen llaw gan ddefnyddio’r gwasanaethau isod!
- Cynlluniwr taith – gallwch ddod o hyd i’ch teithiau yn ogystal ag amserlenni a mapiau o’ch taith.
- Amserlenni – gallwch chwilio am eich gwasanaeth bws er mwyn gweld a lawrlwytho’r wybodaeth lawn am amserlenni.
- Chwiliwr arosfannau bysiau – gallwch chwilio am leoliad er mwyn gweld yr arosfannau bysiau agosaf yn yr ardal, a gweld pa wasanaethau ddylai gyrraedd yr arosfannau hynny.
- Gallwch lawrlwytho ein ap rhad ac am ddim ar gyfer dyfeisiau symudol Android ac iPhone i ddod o hyd i wybodaeth am eich taith.
- Ffoniwch ni yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000, a bydd ein tîm o staff dwyieithog wrth law i helpu bob dydd rhwng 7am ac 8pm.
Cofiwch y byddwn yn diweddaru ein cynlluniwr taith gystal ag y gallwn cyn y digwyddiad. Fodd bynnag er mwyn gweld unrhyw newidiadau munud olaf yn ystod wythnos Cynghrair y Pencampwyr, dilynwch ni ar Twitter ar @TravelineCymru neu ewch i wefan swyddogol Cynghrair y Pencampwyr yma.
I gael rhagor o gyngor, cliciwch yma.
MYND I’R DIGWYDDIAD
Oes gennych chi docynnau i’r gêm? Os byddwch yn ymweld â Chaerdydd ar gyfer y gêm, mae llawer o bethau y gallwch chi eu gwneud tra byddwch chi yma ac mae digon o ddewisiadau ar gael o ran teithio o gwmpas.
I weld yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ynghylch cyrraedd y gêm a chyrraedd gwahanol fannau yng Nghaerdydd, cliciwch yma.