Newyddion

Jo Foxall Operations Director at Traveline Cymru

Cyfarwyddwr newydd yn cymryd yr awenau yn Traveline Cymru

13 Mehefin 2017

Mae gan Traveline Cymru, y cwmni gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, arweinydd newydd wrth y llyw ar ôl i un o weithwyr mwyaf ffyddlon y cwmni gael dyrchafiad.

Bydd Graham Walter, y rheolwr gyfarwyddwr, yn gadael ei swydd y mis nesaf er mwyn newid cyfeiriad, a bydd Jo Foxall yn cymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau ar ôl 12 mlynedd gyda’r busnes.

Dechreuodd Mrs Foxall weithio i’r cwmni fel cynorthwy-ydd marchnata yn 2004. Ers hynny, mae wedi dringo’r ysgol ar ôl cael ei phenodi’n rheolwr marchnata yn 2005 ac yna’n ddirprwy i Mr Walter yn 2010. Hi fydd pennaeth y busnes yn awr, a bydd yn arwain tîm o 35 o staff sy’n gweithio ar ddau safle – yng Nghaerdydd ac ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd.

Mae penodi Mrs Foxall yn enghraifft arall o’r modd y mae Traveline Cymru yn gweithredu’n groes i’r norm yn y sector trafnidiaeth, sy’n sector y mae llawer o ddynion yn gweithio ynddo a lle mae nifer y menywod sydd mewn swyddi arwain yn tueddu i fod yn fach. Yn Traveline Cymru ceir mwy o fenywod na dynion yn yr uwch dîm rheoli, a menywod yw 20 o’r 35 aelod o staff.

Meddai Mrs Foxall wrth sôn am ei dyrchafiad:

“Rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy mhenodi’n Gyfarwyddwr Gweithrediadau. Rwyf wedi datblygu gyda’r cwmni ar hyd y blynyddoedd ac rwyf wedi dysgu cymaint. Mae bod gyda chwmni sy’n cefnogi ac yn datblygu ei dîm wedi bod yn hollbwysig i mi erioed. Rwyf wedi medru gweld a phrofi fy natblygiad fy hun yn ogystal â llwyddiannau a thwf aelodau eraill o’r tîm.”

Bydd Graham Walter yn gadael ei swydd yn Traveline Cymru ar ôl naw mlynedd wrth y llyw. Mae wedi trawsnewid y busnes o fod yn un a oedd yn fewnblyg i raddau helaeth i fod yn un y mae’r cwsmer yn ganolog iddo. Mae rhai o’i uchafbwyntiau niferus yn cynnwys goruchwylio’r gwaith o gyflwyno amryw sianelau digidol Traveline Cymru, sicrhau dros 20 o swyddi yn y gogledd pan gafodd canolfan alwadau’r sefydliad ei integreiddio’n fewnol, ac arwain y tîm i ragori’n gyson ar lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid.

Meddai Mrs Foxall:

“O ganlyniad i ymdrechion Graham, mae Traveline Cymru wedi hen ennill ei blwyf ac mae mewn sefyllfa dda iawn wrth i mi gymryd yr awenau.

“Roedd y llynedd yn flwyddyn wych wrth i ni ddarparu dros 5 miliwn o ddarnau o wybodaeth, sef y nifer uchaf erioed, sicrhau canran o 97% ar gyfer bodlonrwydd cwsmeriaid a lansio ein gwasanaeth Rhadffôn newydd.

“Mae Graham wedi bod yn fentor gwych i mi ac rwy’n ddiolchgar iawn iddo ef ac i’r bwrdd am y cyfle hwn. Rwy’n edrych ymlaen at arwain y tîm ac at barhau i adeiladu ar y gwaith rhagorol a wnaed dan arweiniad Graham.”

Meddai Mr Walter wrth sôn am ei olynydd:

“Ar ôl naw mlynedd gyda’r cwmni, rwy’n teimlo ei bod yn bryd i mi adael y sefydliad gan wybod ei fod yn nwylo unigolyn medrus iawn. Mae Jo wedi bod yn gaffaeliad gwych i’n tîm bob amser. Mae wedi mynd o nerth i nerth, ac alla i ddim meddwl am neb gwell i symud y busnes yn ei flaen i’r lefel nesaf.”

Cwmni dielw yw Traveline Cymru, sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau, amserlenni a phrisiau tocynnau ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên yn y wlad drwy ei wefan ddwyieithog, ei rif Rhadffôn a’i gyfres o wasanaethau i ddefnyddwyr ffonau symudol.

 

DIWEDD

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Lyndsey Jenkins neu Shelley Phillips yn jamjarPR, ar 01446 771265 neu shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon