Newyddion

TrawsCymru logo

Mwynhewch deithiau RHAD AC AM DDIM bob penwythnos ar rwydwaith TrawsCymru!

06 Gorffennaf 2017

Mae bysiau pellter hir TrawsCymru yn ffordd berffaith o grwydro o le i le yng Nghymru. O ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf 2017 ymlaen mae Llywodraeth Cymru yn cynnig teithiau rhad ac am ddim i bawb ar benwythnosau ar rwydwaith TrawsCymru.

Bydd y cynnig hwn yn eich galluogi i deithio’n rhad ac am ddim bob dydd Sadwrn a dydd Sul, heb fod angen cadw sedd ymlaen llaw.

Mae’r gwasanaethau canlynol wedi’u cynnwys yn y cynnig:-

  • TrawsCymru T1 Aberystwyth – Llanbedr Pont Steffan – Caerfyrddin;
  • TrawsCymru T1C Caerfyrddin – Abertawe – Caerdydd;
  • TrawsCymru T2 Bangor – Dolgellau – Aberystwyth;
  • TrawsCymru T3 Wrecsam – Llangollen – Abermo;
  • TrawsCymru T4 Y Drenewydd – Aberhonddu – Caerdydd;
  • TrawsCymru T5 Aberystwyth – Aberaeron – Aberteifi – Hwlffordd;
  • TrawsCymru T6 Aberhonddu – Ystradgynlais – Castell-nedd ac Abertawe;
  • T9 – Bws Cyflym Maes Awyr Caerdydd rhwng canol dinas Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.

Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar wefan TrawsCymru yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon