Newyddion

Traveline Cymru

Lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid yn dal i godi yn Traveline Cymru er gwaethaf y cwymp yng Nghymru yn gyffredinol

22 Awst 2017

Mae Traveline Cymru yn dathlu blwyddyn arall o lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid sy’n uwch nag erioed.

Mae lefelau bodlonrwydd ar draws holl lwyfannau’r gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth – y ganolfan gyswllt, y wefan a’r ap – wedi codi unwaith eto eleni yn yr arolwg diweddaraf o Traveline Cymru.

Yn ôl yr adroddiad diweddaraf, a luniwyd gan ymgynghoriaeth ymchwil a chynllunio annibynnol o’r enw Wright Research, y cwsmeriaid sy’n defnyddio canolfan gyswllt Traveline Cymru yw’r cwsmeriaid mwyaf bodlon, oherwydd cafodd y ganolfan sgôr a oedd bron yn berffaith.

Dywedodd 99% o ddefnyddwyr y ganolfan gyswllt, a gymerodd ran yn yr arolwg, eu bod ‘yn fodlon iawn/yn eithaf bodlon’ â’r gwasanaeth a gawsant, sy’n uwch na’r lefel o 97% a welwyd yn 2016. Dywedodd 99% y byddent yn defnyddio’r gwasanaeth eto.

Roedd bodlonrwydd y cwsmeriaid â gwefan Traveline Cymru yn cyfateb i 83%, sy’n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Mynegai Bodlonrwydd Cwsmeriaid y DU (UKCSI) ar gyfer bodlonrwydd cwsmeriaid, sef 77.8%.

Roedd y gwelliant mwyaf mewn bodlonrwydd ymhlith y sawl sy’n defnyddio ap Traveline Cymru, lle gwelwyd lefelau bodlonrwydd yn codi o 81% yn 2016 i 87% yn 2017.

Y prif resymau dros fodlonrwydd y cwsmeriaid yw bod y wybodaeth y mae arnynt ei hangen ar gael yn rhwydd ac yn effeithlon iddynt, ac roedd y mwyafrif yn defnyddio llwyfannau Traveline Cymru er mwyn cynllunio taith a chael gafael ar amseroedd bysiau.

Daw’r canlyniadau cadarnhaol hyn wrth i Fynegai Bodlonrwydd Cwsmeriaid y DU, sy’n ddull o fesur bodlonrwydd cwsmeriaid ar lefel y DU, nodi bod lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid wedi codi ym mhob rhan o’r DU ar wahân i Gymru, lle maent wedi gostwng un pwynt o’r safle uchaf.

Meddai Jo Foxall, cyfarwyddwr gweithrediadau Traveline Cymru:

“Rydym wrth ein bodd â chanlyniadau’r ymchwil. Rydym yn dal i weld lefelau bodlonrwydd ymhlith ein cwsmeriaid yn gwella o’r naill flwyddyn i’r llall, ac mae hynny oherwydd gwaith caled fy nhîm sy’n llwyddo’n ardderchog i alluogi ein cwsmeriaid i deithio o le i le.

“Mae ein cwsmeriaid wrth wraidd pob peth rydym yn ei wneud, ac rydym yn gweithio’n ddiwyd i sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth hanfodol am drafnidiaeth yn rhad ac am ddim ar unrhyw adeg, yn unrhyw le. Eu hanghenion nhw yw’r rheswm dros fodolaeth ein gwasanaeth, ac rydym bob amser yn awyddus i glywed sut y gallwn wella a theilwra ein gwasanaethau’n unol â hynny.

“Er bod ein sgorau eleni’n uchel drwyddi draw, ni fyddwn yn llaesu dwylo a byddwn yn awr yn mynd ati fel tîm i adeiladu ar y llwyddiant hwn.”

Yn 2016 darparodd Traveline Cymru fwy o ddarnau o wybodaeth am deithio nag erioed o’r blaen. Darparwyd cyfanswm o 5,717,612 o ddarnau o wybodaeth yn 2016, a oedd bron ddwywaith yn fwy na’r ffigur ar gyfer 2015.

Y darnau o wybodaeth a ddarperir drwy’r wefan oedd yn gyfrifol am y cynnydd mwyaf. Dosbarthodd Traveline Cymru dros 1.5 miliwn yn fwy o ddarnau o wybodaeth drwy’r sianel honno, o gymharu â’r ffigur ar gyfer 2015. Profodd ap Traveline Cymru ar gyfer ffonau symudol dwf sylweddol hefyd, wrth i’r defnydd a wnaed ohono gynyddu 19.9% o gymharu â 9.7% ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Cwmni dielw yw Traveline Cymru sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob gwasanaeth bws a thrên ledled y wlad trwy ei wefan ddwyieithog, ei rif Rhadffôn a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer y sawl sy’n defnyddio ffôn symudol.

 

Diwedd

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Shelley Phillips neu Lyndsey Jenkins yn jamjar PR drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio Shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon