Newyddion

Traveline Cymru

Traveline Cymru yn croesawu cynlluniau i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y Cymoedd

29 Awst 2017

Mae gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, sy’n gwasanaethu Cymru gyfan, wedi croesawu cynllun gweithredu i adfywio Cymoedd y de.

Mae Traveline Cymru yn cefnogi cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a hygyrchedd ar draws y Cymoedd.

Mae gwella gwasanaethau cyhoeddus yn un o dair blaenoriaeth cynllun y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, a gaiff ei gadeirio gan Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Gan fod Traveline Cymru yn darparu dros bum miliwn o ddarnau o wybodaeth am deithio i bobl ledled Cymru, mae’n deall y rôl hollbwysig y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ei chwarae ym mywydau llawer o bobl, a’r modd y mae’n eu helpu i gael swyddi, addysg a hyfforddiant, mwynhau gweithgareddau hamdden ac ymweld â ffrindiau a pherthnasau.

Meddai Jo Foxall, cyfarwyddwr Traveline Cymru:

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hollbwysig i seilwaith Cymru. Bob blwyddyn caiff 101 miliwn o deithiau bws ac 20 miliwn o deithiau trên eu cyflawni ledled Cymru, sy’n galluogi pobl i fyw eu bywyd.

“Felly, rydym yn cefnogi’r cynnig sydd yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol i wella gwasanaethau yn y Cymoedd.

“Mae gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yr un mor bwysig â’r gwasanaethau eu hunain. Heb amserlen, nid yw bws neu drên yn ddim byd ond cerbyd ar olwynion, ac yn aml gall fod yn anodd cael gafael ar wybodaeth.

“Dyna pam rydym yn gweithio mor galed i sicrhau bod modd i bobl Cymru gael gwybodaeth ddibynadwy a hygyrch wedi’i theilwra am deithio – yn rhad ac am ddim ar unrhyw adeg, yn unrhyw le.”

Yn 2016 darparodd Traveline Cymru 5,717,612 o ddarnau o wybodaeth am deithio, a oedd bron ddwywaith yn fwy na’r ffigur ar gyfer 2015. Y darnau o wybodaeth a ddarperir drwy’r wefan oedd yn gyfrifol am y cynnydd mwyaf. Dosbarthodd Traveline Cymru dros 1.5 miliwn yn fwy o ddarnau o wybodaeth drwy’r sianel honno, o gymharu â’r ffigur ar gyfer 2015. Profodd ap Traveline Cymru ar gyfer ffonau symudol dwf sylweddol hefyd, wrth i’r defnydd a wnaed ohono gynyddu 19.9% o gymharu â 9.7% ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Meddai Jo wedyn:

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi yn ein gwefan a’n sianelau digidol o ganlyniad i adborth gan ein cwsmeriaid, ac mae hynny’n talu ar ei ganfed.

“Er bod y byd yn mynd yn fwyfwy digidol, ceir galw mawr o hyd am wasanaethau traddodiadol. Mae’n hawdd iawn tybio bod gan bawb ffôn clyfar neu gyfrifiadur, ond rydym yn sylweddoli nad yw hynny’n wir. Yn ddiweddar, cafodd rhif Rhadffôn ei gyflwyno gennym er mwyn rhoi cymorth i bobl nad oes modd iddynt ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein.

“Rydym bob amser yn ystyried ffyrdd o wella’r graddau y mae gwybodaeth am drafnidiaeth yn hygyrch i bawb yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda gweithlu’r Cymoedd i godi ymwybyddiaeth o’r hyn rydym ni’n ei gynnig.”

 

Diwedd

Dylai ymholiadau gan y cyfryngau gael eu hanfon at Shelley Phillips neu Lyndsey Jenkins yn jamjar PR drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio Shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon