Newyddion

Office of the Traffic Commissioner (Wales) Team Leader

Hysbyseb Swydd Allanol: Arweinydd Tîm Swyddfa Comisiynydd Traffig (Cymru)

31 Awst 2017

Yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA)

Lleolir y swydd yng Nghaerdydd

 

Ydych chi’n gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg yn rhugl? 

Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu ardderchog a’r gallu i feithrin perthynas barhaol ag uwch-reolwyr a rhanddeiliaid? 

Os gallwch ateb y cwestiynau uchod yn gadarnhaol, byddem yn hoffi clywed gennych.

Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm i ymuno â thîm bach yn Swyddfa’r Comisiynydd Traffig. Byddwch yn ymdrin â’r trefniadau gweinyddol ar gyfer ymchwiliadau cyhoeddus a gwrandawiadau ac yn ymdrin â’r holl waith papur perthnasol. Byddwch yn darparu cymorth i’r Comisiynydd Traffig er mwyn ei alluogi i gyflawni ei ddyletswyddau statudol o safbwynt gofynion trwyddedu cerbydau yng Nghymru. 

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys: 
• llunio a drafftio cyflwyniadau cywir a chyflawn i’r Comisiynydd Traffig gan argymell dull gweithredu a phrosesu’r achos os oes angen
• darparu gwasanaeth o safon i’r Comisiynydd Traffig ar gyfer ymchwiliadau cyhoeddus, gwrandawiadau ynghylch ymddygiad gyrwyr a gwrandawiadau ynghylch atafael cerbydau
• cysylltu pan fo angen â’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau, yr heddlu, ac adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth a mynychu cyfarfodydd ar ran y Comisiynydd Traffig
• drafftio ymatebion i ohebiaeth gan Aelodau Seneddol, cymdeithasau masnach ac awdurdodau lleol ar ran y Comisiynydd Traffig
• monitro perfformiad y swyddfa a gweithredu fel y bo angen
• ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn ac ymholiadau ysgrifenedig.


Amdanoch chi 

Rydych yn gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg yn rhugl. Mae gennych brofiad blaenorol o arwain a rheoli tîm yn effeithiol ac rydych yn frwdfrydig ynghylch datblygu aelodau’r tîm. Mae gennych y gallu i ddeall a dehongli deddfwriaeth gymhleth ac mae gennych sgiliau ardderchog ym maes dadansoddi a datrys problemau. Mae gennych ddealltwriaeth ddigonol o becynnau Microsoft, gan gynnwys rhaglenni Excel a Word. 

Amdanom ni 

Mae gan Brydain wyth comisiynydd traffig, sy’n gyfrifol am reoleiddio’r trwyddedau y mae’n ofynnol i weithredwyr yn y diwydiant cludo teithwyr a’r diwydiant cludo nwyddau ar y ffyrdd eu cael. Ym mis Hydref 2016, penododd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth Gomisiynydd Traffig llawn-amser cyntaf Cymru. Cyn hynny, câi’r swydd ei chyfuno â swydd Comisiynydd Traffig Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Mae staff Swyddfa’r Comisiynydd Traffig yn darparu cymorth gweinyddol i’r comisiynwyr traffig. Mae’r ffaith bod y swyddfa’n symud o Birmingham i Gaerdydd yn cynnig cyfle cyffrous i chwarae rhan lawn yn y gwaith o gynorthwyo Comisiynydd Traffig Cymru yn ei ddyletswyddau rheoleiddio. Bydd hynny’n cynnwys paratoi gwaith achos a ddaw i law oddi wrth asiantaethau gorfodi a’r swyddfa drwyddedu, a chlercio mewn ymchwiliadau cyhoeddus sy’n codi o’r adroddiadau a geir.

Yr hyn sy’n gwneud y swyddfa hon yn wahanol i’r saith swyddfa arall yn y rhwydwaith yw’r ffaith y bydd gan y tîm ran bwysig i’w chwarae hefyd o safbwynt gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol eraill ar ran y Comisiynydd Traffig.

Bydd y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg yn rhugl yn helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau o ran y Gymraeg.


Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar:

https://www.civilservicejobs.service.gov.uk/csr/index.cgi

Cyflog: £24,876 - £26,000

Dyddiad cau: 15 Medi 2017

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon