Newyddion

Bus Passenger Survey expands into Wales

Arolwg Teithwyr Bysiau yn ymestyn i Gymru

15 Medi 2017

Am y tro cyntaf, bydd yr Arolwg Teithwyr Bysiau yn cael ei gynnal ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban ar yr un pryd.

Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru a’r prif weithredwyr bysiau mae’r corff gwarchod annibynnol ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth, Transport Focus, wedi sicrhau bod arolwg yn cael ei gynnal ledled Cymru am y tro cyntaf ers 2010.

Mae’r Arolwg Teithwyr Bysiau yn dechrau heddiw (11 Medi 2017) a bydd gweithwyr maes ar fysiau yn ystod mis Medi, mis Hydref a mis Tachwedd yn annog teithwyr i gymryd rhan ynddo.

Bydd yr arolwg yn ymdrin â’r rhwydwaith ledled Cymru, oddeutu 50 o ardaloedd awdurdodau a gweithredwyr yn Lloegr, yn ogystal â’r Alban. Eleni bydd yr arolwg yn casglu barn dros 48,500 o deithwyr ar draws y tair gwlad:

  • 4,700 yng Nghymru
  • dros 40,000 yn Lloegr
  • 3,900 yn yr Alban.

Yr arolwg yw’r dull cydnabyddedig o fesur bodlonrwydd teithwyr bysiau erbyn hyn, ac mae’n adnodd dylanwadol a defnyddiol ar gyfer meincnodi a chymharu barn teithwyr.

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal am yr wythfed tro, ac mae wedi tyfu o ran maint a chwmpas er mwyn sicrhau ei fod yn fwy defnyddiol fyth i weithredwyr bysiau, awdurdodau trafnidiaeth a llywodraethau.

Mae’r arolwg yn helpu i nodi a hybu gwelliannau ar gyfer teithwyr, sy’n cynnwys prisiau newydd i deithwyr a hyfforddiant gwell ynghylch gofal cwsmer i yrwyr, ac mae hefyd yn golygu bod timau rheoli cwmnïau bysiau lleol a chenedlaethol yn cael eu hasesu’n uniongyrchol ar sail y canlyniadau.

Gall teithwyr gwblhau’r holiadur ar bapur neu ar-lein. Os gofynnir i chi, cofiwch fanteisio ar y cyfle i gymryd rhan. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch cwblhau’r arolwg i’w chael yma.

Bydd y canlyniadau ar gael yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac mae adroddiadau blaenorol ar gael ar ein gwefan yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon