Newyddion

Traveline Cymru Freshers Wales

Traveline Cymru wrth law i helpu glasfyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru i deithio o le i le

03 Hydref 2017

Mae Traveline Cymru, y cwmni gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, wrthi’n mynd o’r naill brifysgol i’r llall ar draws y wlad i helpu myfyrwyr i ddarganfod sut mae mynd o le i le yn eu trefi a’u dinasoedd newydd.

Trwy ei wefan myndibobmanfelmyfyriwr gall myfyrwyr mewn prifysgolion lleol gael cynghorion a gwybodaeth am deithio, a fydd yn eu helpu i ddarganfod sut mae mynd o le i le yn eu hamgylchedd newydd, heb y gost ychwanegol o ddefnyddio eu ceir eu hunain.

O fynd i www.myndibobmanfelmyfyriwr.traveline.cymru gall myfyrwyr gynllunio teithiau o brif leoliadau eu campws, dod o hyd i arosfannau bysiau, cael cynghorion am deithio’n lleol a chael manylion am docynnau i fyfyrwyr.

Meddai Rhian Cosslett, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus: “Dechrau yn y brifysgol yw un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous ym mywyd person ifanc, ond gall bod oddi cartref fod yn frawychus iawn hefyd, yn enwedig mewn dinas neu dref hollol newydd.

“Rydym am annog myfyrwyr presennol a myfyrwyr newydd i fanteisio i’r eithaf ar y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd yn eu hardal, a’u helpu i ddarganfod pa opsiynau sydd ar gael iddynt wrth iddynt ddechrau cael eu traed danynt. Byddwn yn mynd i brifysgolion ar hyd a lled y wlad dros yr ychydig wythnosau nesaf, a dyna’r adeg berffaith i fyfyrwyr ddod i gael sgwrs â ni.

“Mae’r wefan myndibobmanfelmyfyriwr yn cynnwys yr holl wybodaeth y gallai fod ei hangen ar fyfyrwyr ynghylch dod o hyd i lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, megis adnoddau cynllunio teithiau ac amserlenni a chynghorion ynghylch teithio’n lleol – gwybodaeth a fydd yn ddefnyddiol iddynt drwy gydol eu cyfnod yn y brifysgol.”

Meddai David Manfield ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’n hollbwysig i ni bod ein myfyrwyr yn gwybod sut mae cyrraedd gwahanol fannau wrth deithio o’r naill gampws i’r llall ac o amgylch yr ardal ehangach. Y peth pwysig i lawer o fyfyrwyr yw gwybod pa opsiynau sydd ar gael iddynt o ran trafnidiaeth, ac mae’r wefan myndibobmanfelmyfyriwr yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol o gael gafael ar y wybodaeth y mae arnynt ei hangen.”

Diwedd

Dylid cyfeirio ymholiadau gan y cyfryngau at Shelley Phillips yn jamjar PR 01446 771265 / shelley@jamjar-pr.co.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon