Newyddion

Conwy County Borough Council bus survey

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau clywed barn pobl am wasanaethau bysiau

05 Hydref 2017

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisiau clywed barn pobl am wasanaethau bysiau, i helpu i benderfynu sut y dylai'r rhwydwaith cludiant cyhoeddus ddatblygu yn y dyfodol i ddiwallu anghenion cymunedau yn well.

Mae arolwg ar-lein yn rhoi cyfle i bobl yng Nghonwy roi eu barn a’u profiadau o ddefnyddio gwasanaethau bysiau lleol. Bydd ymatebwyr yn cael y cyfle i gael eu cynnwys mewn cystadleuaeth i ennill gwerth £100 o dalebau siopa. Gofynnwn i chi annog eich ffrindiau a’ch teulu sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau lleol i lenwi’r arolwg hefyd.

Gallwch lenwi’r arolwg trwy glicio ar y ddolen a ganlyn:  https://www.surveymonkey.co.uk/r/ConwyBusSurvey

Y dyddiad cau yw Dydd Gwener 27 Hydref 2017

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon