Newyddion

#TravelHack2 ODI Leeds

Cynhadledd #TravelHack2 – Fare Enough yn ODI Leeds

19 Hydref 2017

Ddydd Mawrth 10 Hydref 2017, aeth ein tîm data i Leeds i gynhadledd #TravelHack2 a drefnwyd gan dîm ODI Leeds, sef un o ganolfannau arloesol y Sefydliad Data Agored.

Cafodd y gynhadledd ei chynnal yn Munro House, sydd newydd gael ei adnewyddu, a bu’n canolbwyntio ar wybodaeth am brisiau tocynnau ac ar y gwaith a gyflawnir ar hyn o bryd ynghylch data o’r fath. Roedd dros 70 o gynrychiolwyr yn bresennol, gan gynnwys cynrychiolwyr o adrannau’r llywodraeth, awdurdodau lleol a gweithredwyr trafnidiaeth cenedlaethol yn ogystal ag ymgynghorwyr, datblygwyr a chodwyr byd-enwog.

Buodd ein Rheolwr Darparu’r Gwasanaeth, Kevin Roderick a’n Rheolwr Systemau Gwybodaeth, Tansy Appleby yn annerch y cynrychiolwyr er mwyn trafod yr heriau a’r llwyddiannau sydd ynghlwm wrth weithredu system sy’n arddangos gwybodaeth am brisiau tocynnau’n effeithiol i’n cwsmeriaid.

Bu Kevin yn sôn am y broses gychwynnol o gasglu data, y broses o drin y data hwnnw er mwyn creu set ddata ‘safonol’, ac yna’r broses o allforio a chysylltu ag amserlenni. Yna, bu Tansy yn sôn am y problemau yr ydym yn eu gweld o ddydd i ddydd ac am yr anawsterau sy’n gysylltiedig â chynnal set ddata gymhleth.

Meddai Kevin:

“Mae ein tîm wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein proses ar gyfer ymdrin â phrisiau tocynnau’n gweithio’n ymarferol i ni ond, yn bwysicach na dim, ei bod yn hawdd i’r cwsmer ei deall. Roedd cael ein gwahodd i rannu gwybodaeth a dangos sut y gwnaethom roi’r broses ar waith yn gyfle gwych i ni gyfnewid gwybodaeth a phrofiad â’r sawl sy’n gweithio yn y diwydiant.

Bu’r gynhadledd yn fodd i ni drafod sut y gallwn ddechrau dylanwadu ar y modd y caiff gwybodaeth am brisiau tocynnau ei chyflwyno i gwsmeriaid yn y dyfodol.”


Ewch i ODI Leeds i gael rhagor o wybodaeth.

Y delweddau wedi’u cael o Twitter @ODILeeds

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon