Newyddion

Santander Next Bike Scheme Swansea University

Helpwch Brifysgol Abertawe i ENNILL Cynllun Nextbike Santander

23 Tachwedd 2017

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth i ennill cynllun rhannu beiciau ar gyfer y brifysgol a chymuned ehangach Abertawe, a Phrifysgol Abertawe yw’r unig brifysgol yng Nghymru i gyrraedd y rownd derfynol.

O ganlyniad i lawer o waith caled ac agwedd benderfynol, mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i fod ymhlith y pump olaf yn y gystadleuaeth. Bydd dwy brifysgol o blith y pump sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ennill y gystadleuaeth ar sail yr arian y maent wedi’i godi i weithredu’r cynllun.

Bydd Her Feiciau Santander i Brifysgolion yn rhoi gwerth £100,000 o gyllid i’r ddwy brifysgol fuddugol er mwyn iddynt sefydlu cynllun rhannu beiciau ar gyfer y ddinas.

Pe bai Prifysgol Abertawe yn un o’r ddwy brifysgol fuddugol – mae’n cystadlu yn erbyn Prifysgolion Brunel, Birmingham, Portsmouth a Surrey – byddai’r cynllun yn cael ei lansio yn ystod gwanwyn 2018 gan ddechrau â 50 o feiciau mewn 5 gorsaf ddocio ar hyd prif lwybr beicio Abertawe. Pe bai’r brifysgol yn llwyddiannus, byddai’n ceisio ymestyn y cynllun i gynnwys rhannau eraill o’r ddinas.

Mae Prifysgol Abertawe yn yr ail safle ar hyn o bryd o safbwynt y nifer uchaf o gefnogwyr. Ond mae arni angen eich help chi’n awr i gynnal y momentwm hwn os yw am lwyddo.

Bydd y cyfnod ariannu torfol yn dechrau ar 6 Tachwedd ac yn dod i ben ganol nos ar 8 Rhagfyr.

Cliciwch yma i weld fersiwn electronig y llyfryn corfforaethol sy’n nodi manteision a chostau bod yn bartner yng nghynllun Abertawe.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r dudalen ar ariannu torfol yma: www.crowdfunder.co.uk/bikes4swansea.

Santander%20Bike%20Scheme2.jpg

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon