Newyddion

 Arriva Club 55

Clwb 55 Arriva – mae’r dull rhatach o deithio i bobl dros 55 oed yn ei ôl! Dyma gyfle i deithio i gannoedd o wahanol fannau am gyn lleied â £27 am docyn dwyffordd

10 Ionawr 2018

Mae tocyn Clwb 55 Trenau Arriva Cymru yn ffordd wych o ymweld â’ch hoff fannau ledled Cymru a thu hwnt am gyn lleied â £27 am docyn dwyffordd.

Y cyfan y mae arnoch ei angen yw’r syniad ar gyfer taith, a rhywbeth sy’n profi pwy ydych chi. Yn ogystal â mwynhau’r cynnig arbennig hwn a gynigir gan Glwb 55 Arriva, gallwch barhau i gael disgownt ychwanegol o £1 hefyd.

Mae tocynnau Clwb 55 ar gael os ydych am deithio i rywle rhwng 7 Ionawr 2018 a 3 Mawrth 2018, a bydd yn rhaid i’r daith yn ôl fod wedi’i chwblhau erbyn 10 Mawrth 2018.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma ar wefan Trenau Arriva Cymru.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon