Newyddion

Astudiaeth yn dangos bod bysiau’n cynnig gwell gwerth wrth deithio na mynd i’r gwaith yn y car

Astudiaeth yn dangos bod bysiau’n cynnig gwell gwerth wrth deithio na mynd i’r gwaith yn y car

19 Chwefror 2018

  • Gall y sawl sy’n teithio ar fysiau yn y de arbed oddeutu £1666 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy adael y car gartref
  • Mae’r ymchwil yn cyd-daro ag ymgyrch genedlaethol sy’n dangos gwerth a hyblygrwydd tocynnau wythnos Stagecoach
  • Yn ne Cymru, mae modd teithio heb gyfyngiadau ar fysiau dros gyfnod o 7 diwrnod am £3.57 y dydd

Mae astudiaeth newydd wedi dangos bod defnyddwyr yn gallu cael gwell gwerth am arian drwy ddefnyddio’r bws yn hytrach na theithio i’r gwaith yn y car.

Roedd yr ymchwil – a gynhaliwyd gan Stagecoach – yn dangos bod pobl sy’n defnyddio’r bws i deithio i’r gwaith rhwng Merthyr a Chaerdydd yn arbed £1666 y flwyddyn ar gyfartaledd o gymharu â’r sawl sy’n teithio i’r gwaith mewn car.

Cyhoeddwyd yr ymchwil wrth i Stagecoach lansio ymgyrch genedlaethol i dynnu sylw at y gwerth a’r hyblygrwydd a gynigir gan docynnau wythnos aml-daith y cwmni, sy’n cynnig cyfle i deithio heb gyfyngiadau ar draws de Cymru am ychydig dros £3.57 y dydd ar gyfartaledd.

Roedd yr astudiaeth yn dangos bod costau teithio ar fws yn y de oddeutu 59% yn rhatach na gwneud yr un daith mewn car, sy’n arbed oddeutu £144 y mis i deithwyr ar gyfartaledd, yn ôl yr astudiaeth.

Bu’r ymchwil diweddaraf a gynhaliwyd gan Stagecoach, sef gweithredwr bysiau mwyaf Prydain, yn ymdrin â rhyw 35 o’r prif lwybrau ar gyfer teithio i’r gwaith yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Roedd yn cymharu cost wythnosol mynd ar y bws â chost tanwydd a pharcio car ar gyfer yr un teithiau.

Darganfu’r astudiaeth bod modd gwneud arbedion blynyddol cyfartalog o £1,200 ar draws yr holl lwybrau a oedd yn rhan o’r arolwg – digon i dalu am holl gostau ynni blynyddol tŷ â thair neu bedair ystafell wely*.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru:

“Mae’r ymchwil hwn yn dangos ei bod yn gallu bod gryn dipyn yn rhatach o hyd i deithio i’r gwaith ar y bws o gymharu â’r car i lawer o bobl. Gallai’r arian sy’n cael ei arbed fynd tuag at wyliau i’r teulu, gwelliannau i’r tŷ neu’r gyllideb siopa fisol.

“Rydym yn gweithio’n galed i ddarparu gwasanaethau o’r radd flaenaf i’r holl bobl sy’n dibynnu ar fysiau, ac mae ein hymgyrch bresennol yn dangos bod ein tocynnau wythnos sy’n caniatáu i bobl deithio heb gyfyngiadau yn cynnig gwerth gwych am arian.”

Daw canfyddiadau Stagecoach wrth i ymchwil diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos cynnydd o 3% yn nifer y teuluoedd a oedd yn berchen ar gar neu fan rhwng 2016 a 2017.**

Fodd bynnag, roedd ymchwil gan y grŵp ymgyrchu Greener Journeys y llynedd yn rhybuddio ynghylch effaith niweidiol tagfeydd mewn trefi a dinasoedd ar draws y DU. Roedd yr ymchwil – gan Yr Athro David Begg – yn datgelu bod disgwyl i gyflymder traffig yn y dinasoedd mwyaf prysur ym Mhrydain ostwng i 12 milltir yr awr yn unig ar gyfartaledd erbyn 2030 a hynny oherwydd bod disgwyl i achosion o oedi o ganlyniad i broblemau traffig ddyblu dros y degawd nesaf.***

Ychwanegodd Nigel Winter:

“Yn anffodus, ynghyd â phobl eraill sy’n defnyddio’r ffyrdd, mae problem ddifrifol tagfeydd traffig yn effeithio ar ein cwsmeriaid, ac mae hynny’n golygu bod gwasanaethau bysiau yn llai dibynadwy, bod pris tocynnau’n cynyddu, bod ansawdd yr aer yn gwaethygu a bod teithio ar fws yn llai deniadol.

“Rydym yn buddsoddi mewn gwelliannau parhaus ar gyfer ein cwsmeriaid, ond mae angen i’r sawl sy’n gyfrifol am y seilwaith ffyrdd ddangos yr un ymrwymiad â ni drwy ryddhau lle ar y ffyrdd er mwyn i fysiau allu gweithredu’n llwyddiannus.”

Mae Stagecoach wedi gwneud cyfres o welliannau er mwyn helpu i drawsnewid y profiad o deithio ar fysiau i gwsmeriaid, sy’n cynnwys creu ap Stagecoach Bus sy’n cynnig cyfleuster cynllunio teithiau, dull o dracio bysiau mewn amser real, gwybodaeth am yr arhosfan nesaf a thocynnau ar ddyfeisiau symudol. Yn ogystal â thaliadau traddodiadol ag arian parod, rydym yn cynnig cyfleuster tocynnau clyfar, a byddwn yn cyflwyno technoleg talu digyffwrdd ar draws y de o 14 Chwefror.

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi buddsoddi dros £30 miliwn mewn dros 280 o fysiau newydd yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae’r cerbydau hyn yn lanach ac yn fwy gwyrdd, ac mae llawer ohonynt hefyd yn cynnig Wi-fi am ddim a phwyntiau gwefru.

I gael rhagor o wybodaeth am Stagecoach UK Bus ewch i www.stagecoachbus.com

DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon