Newyddion

Anturiaethau wrth deithio yng nghefn gwlad Castell-nedd Port Talbot

Anturiaethau wrth deithio yng nghefn gwlad Castell-nedd Port Talbot

21 Mawrth 2018

Mae gwefan newydd sy’n hyrwyddo Castell-nedd Port Talbot a hygyrchedd yr ardal ar drafnidiaeth gyhoeddus wedi’i lansio, sy’n eich galluogi i ddarganfod harddwch naturiol a rhyfeddodau cudd yr ardal gan ddefnyddio’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael.

Mae’r wefan yn bwrw golwg ar rai o’r parciau gwledig, y llwybrau cerdded a’r rhaeadrau, ymhlith llawer o bethau eraill, a gallwch ddod i adnabod yr ardal a chael eich ysbrydoli i fynd i grwydro, waeth a ydych yn byw yn yr ardal neu’n ymweld â hi.

Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr ynghylch sut mae cyrraedd Castell-nedd a Phort Talbot a sut mae teithio o amgylch yr ardal. Mae hefyd yn darparu dolenni cyswllt defnyddiol â gwefannau eraill fel y gallwch gael gafael ar fanylion am lety ac atyniadau ynghyd â gwybodaeth ddefnyddiol am yr ardal leol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.traveladventures.wales

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon