Newyddion

PTI Cymru yn croesawu aelodau newydd i’w fwrdd

PTI Cymru yn croesawu aelodau newydd i’w fwrdd

13 Mehefin 2018

Mae PTI Cymru, y corff ymbarél sy’n rhedeg Contact Centre Cymru a Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi penodi dau aelod newydd i’w fwrdd cyfarwyddwyr.

Mae Cynthia Ogbonna, rheolwr gyfarwyddwr Bws Caerdydd, a’r Cynghorydd Sean Morgan yn ymuno â bwrdd y cwmni. Ar hyn o bryd mae’r bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant bysiau a threnau, grwpiau defnyddwyr ac awdurdodau lleol ledled Cymru.

Yn rhan o’u rolau newydd, bydd Mrs Ogbonna a Mr Morgan yn cefnogi strategaeth a nodau trefniadaethol y busnes ac yn trafod materion ehangach sy’n ymwneud â’r diwydiant trafnidiaeth yng Nghymru.

Cafodd Mrs Ogbonna ei phenodi’n rheolwr gyfarwyddwr Bws Caerdydd yn 2012, a hi oedd y fenyw gyntaf i ddal y swydd honno ers i’r cwmni gael ei sefydlu 110 o flynyddoedd yn ôl. Mae Bws Caerdydd yn darparu gwasanaethau bws ar gyfer dinas Caerdydd ac yn cyflogi tua 700 o bobl, ac mae gan y cwmni fflyd o dros 200 o fysiau a throsiant sydd gymaint â £34 miliwn.

Bydd Mrs Ogbonna yn ymuno â’r bwrdd fel cynrychiolydd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr (CPT Cymru), sef cymdeithas fasnach sy’n cynrychioli’r diwydiant bysiau a threnau ysgafn yng Nghymru.

Mr Morgan yw’r Aelod Cabinet dros yr Economi, Seilwaith a Chynaliadwyedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac mae’n gynghorydd ers 2012.

Cyn cael ei ethol yn gynghorydd, bu’n rheoli ei fusnesau bach ei hun ac yn datblygu eiddo masnachol. Bydd yn ymuno â’r bwrdd fel cynrychiolydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef y corff sy’n cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru.

Meddai Jo Foxall, rheolwr gyfarwyddwr PTI Cymru: “Rydym yn falch iawn o groesawu Cynthia a Sean i’r bwrdd. Bydd eu harbenigedd a’u gwybodaeth am y diwydiant trafnidiaeth yn lleol ac yn genedlaethol yn gyfraniad hanfodol ac adeiladol i’r bwrdd. Rydym wedi datblygu perthynas gadarn â’r ddau ohonynt, ac mae cydweithio â nhw wedi bod yn brofiad cadarnhaol tu hwnt yn barod.”

Meddai Mrs Ogbonna: “Rwyf wrth fy modd o gael ymuno ag aelodau bwrdd PTI Cymru. Mae yma dîm cryf, ac rwy’n edrych ymlaen at ddechrau gweithio ar y datblygiadau diweddaraf yn y sefydliad.”

Meddai Mr Morgan wrth drafod ei benodiad: “Rwy’n falch iawn o ymuno â’r bwrdd, ac rwy’n edrych ymlaen at gynnig cefnogaeth hanfodol i’r busnes. Rwyf wrth fy modd o gael ymuno â’r bwrdd fel llysgennad diweddaraf y sefydliad, ochr yn ochr â Mrs Ogbonna.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon