Newyddion

Y Cerdyn Heneiddio'n Dda

Y Cerdyn Heneiddio'n Dda

12 Gorffennaf 2018

Beth ydi o?

Mae’r Cerdyn Heneiddio’n Dda yn cefnogi pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth a pharhau i wneud y pethau sydd o bwys iddyn nhw.

Mae’r cardiau’n cynnwys negeseuon syml y gellir eu defnyddio i roi gwybod i bobl y gallai fod angen ychydig o help neu gefnogaeth arnoch ac maent yn cael eu darparu mewn waled cerdyn teithio y gellir ei adnabod yn hawdd.

Mae’r cynllun yn seiliedig ar y cynlluniau cardiau Better Journey a Safe Journey a ddatblygwyd gan First Group, ac mae wedi’i gynllunio i ategu cynlluniau rhanbarthol sy’n bodoli eisoes fel Pasbort Sir Benfro a’r Waled Oren.

 

Lle ydw i’n gallu defnyddio’r cardiau?

Mae Cardiau Heneiddio’n Dda wedi’u cynllunio i’w defnyddio mewn amryw o sefyllfaoedd a lleoedd. Gallant fod yn arbennig o ddefnyddiol mewn siopau, caffis, bwytai, banciau, fferyllfeydd, ac ar gludiant cyhoeddus, lle gallwch eu defnyddio i adael i bobl wybod y byddech yn hoffi ychydig o help neu gefnogaeth ychwanegol.

 

Ym mha ffordd arall alla i gefnogi’r cynllun?

Soniwch wrth ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion am y cynllun Cerdyn Heneiddio’n Dda.

Siarad i fusnesau lleol a gofynwch os byddent yn hapus i gefnogi’r cynllun.

 

Sut all fy sefydliad neu fusnes gymryd rhan?

Nid oes angen unrhyw hyfforddiant arbennig i gefnogi cynllun Cerdyn Heneiddio’n Dda. Rhowch wybod i’ch staff a’ch cydweithwyr am y cynllun a gofynnwch iddynt adnabod y cardiau ac ymateb i bobl gyda cherdyn. Mae hon yn ffordd wych i ddechrau gwneud eich busnes yn fwy ystyriol o oed.

 

Ewch i wefan Heneiddio’n Dda yng Nghymru yma i gael gwybod mwy am y Cerdyn Heneiddion Dda a chael gwybod sut y gallwch gael gafael ar y cardiau a chefnogir cynllun.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon