Newyddion

Gyrwyr bysiau Stagecoach yn cymryd rhan mewn her Cerdded am Oes i godi arian i Aren Cymru

Gyrwyr bysiau Stagecoach yn cymryd rhan mewn her Cerdded am Oes i godi arian i Aren Cymru

18 Gorffennaf 2018

Bu gyrwyr bysiau Stagecoach o’r depo yng Nghwmbrân yn cymryd rhan mewn her Cerdded am Oes er mwyn codi arian i Aren Cymru. Codwyd cyfanswm o £508 gan y gyrwyr – Nigel Gould a Kevin Gulliford – a’u teuluoedd ar ffurf nawdd, a chafodd yr arian a godwyd ei ddyblu gan y cwmni i greu cyfanswm o £1016. Mae gan Aren Cymru ddull penodol a safonol iawn o godi arian er budd ymchwil, gofal ac addysg yn ymwneud â’r arennau, sy’n ymateb i anghenion sefydliadau clinigol, cleifion a’u teuluoedd.

Cyflwynwyd y siec yng Nghwmbrân i staff Aren Cymru gan Mark Tunstall, y Rheolwr Gweithrediadau yng Nghwmbrân, a dau o yrwyr Stagecoach a gymerodd ran yn y digwyddiad codi arian. Drwy gymryd rhan yn yr her Cerdded am Oes mae gyrwyr Stagecoach ac aelodau eraill o staff, eu perthnasau a’u ffrindiau yn cefnogi gwaith Aren Cymru ac felly’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion a’u teuluoedd.

Meddai Mark Tunstall, y Rheolwr Gweithrediadau yn y depo yng Nghwmbrân: “Mae Nigel a Kevin wedi gwneud ymdrech arbennig i gefnogi elusen y mae gan y ddau ohonynt gysylltiad personol â hi. Rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu dyblu’r arian a godwyd ganddynt ar gyfer achos mor deilwng.”

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Rydym bob amser yn barod iawn i gefnogi ein staff gyda’u hymdrechion i godi arian, a hoffem eu canmol am y gwaith codi arian y maent wedi’i gyflawni yn ddiweddar ar gyfer achos mor dda. Mae’r staff yn meddwl yn gyson am ffyrdd newydd o godi arian a sicrhau bod ein partneriaeth ag elusennau lleol yn ffynnu.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon