
Angen gwirfoddolwyr! Cysylltu Cymunedau yng Nghymru
24 Gorffennaf 2018- Byddwch yn rhan o fudiad sy’n gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned!
- Rhowch gymorth i bobl leol a gwnewch rywbeth yn erbyn unigrwydd!
- Gweithiwch gyda phobl debyg i chi sy’n credu y dylai cludiant fforddiadwy fod ar gael i bawb!
Os ydych chi eisiau gwirfoddoli gyda’ch darparwr cludiant cymunedol lleol fel gyrrwr, cynorthwyydd teithio, cyfaill teithio, gweinyddwr neu ymddiriedolwr, gall Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru eich cysylltu.
Ebostiwch johne@ctauk.org neu ffoniwch 01792 844 290