Newyddion

Dewch i gwrdd â thîm Traveline Cymru yn un o Ffeiriau’r Glas!

Dewch i gwrdd â thîm Traveline Cymru yn un o Ffeiriau’r Glas!

14 Medi 2018

Dewch i gwrdd â thîm Traveline Cymru yn un o Ffeiriau’r Glas!

Wrth i’r rheini sydd newydd adael yr ysgol baratoi i hedfan dros y nyth ac ymuno â dathliadau Wythnos y Glas yn eu prifysgol, bydd Traveline Cymru yn teithio o gwmpas prifysgolion Cymru er mwyn helpu myfyrwyr i wybod sut mae mynd o le i le.

Yn ystod y mis byddwn yn teithio ar draws Cymru o’r naill brifysgol i’r llall i helpu glasfyfyrwyr i ddod yn gyfarwydd ag amgylchedd newydd tref neu ddinas eu prifysgol.

Bydd tîm Traveline Cymru yn ymweld â thros 20 o golegau a phrifysgolion ledled Cymru yn ystod mis Medi, gan gynnwys Bangor, Caerdydd, Aberystwyth ac Abertawe.

Wrth i fyfyrwyr newydd addasu i fywyd heb eu trafnidiaeth eu hunain, bydd ganddynt fynediad i wasanaeth sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar eu cyfer o’r enw myndibobmanfelmyfyriwr.

Mae’r canllaw defnyddiol hwn ar-lein yn llawn gwybodaeth am drafnidiaeth a chynghorion hanfodol ynghylch teithio, ac mae’n cynnwys cynlluniwr taith o’r campws lleol, gwybodaeth am arosfannau bysiau, manylion tocynnau i fyfyrwyr a newyddion.

Meddai Emma Dunn, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru:

“Dechrau yn y brifysgol yw un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous ym mywyd person ifanc, ond gall bod oddi cartref fod yn frawychus iawn hefyd, yn enwedig mewn dinas neu dref hollol newydd.

“Rydym am annog myfyrwyr presennol a myfyrwyr newydd i fanteisio i’r eithaf ar y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd yn eu hardal, ac rydym wrth law i’w helpu i ddarganfod pa opsiynau sydd ar gael iddynt wrth iddynt ddechrau cael eu traed danynt.

“Byddwn yn mynd i brifysgolion ar hyd a lled y wlad dros yr ychydig wythnosau nesaf, felly dyma’r adeg berffaith i fyfyrwyr ddod i gael sgwrs â ni a chael gwybod mwy am y wefan myndibobmanfelmyfyriwr.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon