Newyddion

Cycle Planner

Nodweddion newydd ein ‘Cynlluniwr Beicio’ – beth yw eich barn chi?

18 Hydref 2018

Yn ddiweddar, rydym wedi ychwanegu rhai nodweddion newydd i’r adran ‘Cynlluniwr Beicio’ ar ein Cynlluniwr Taith. Mae’n dal yn bosibl i chi ddefnyddio’r cyfleuster i ddod o hyd i’r llwybr cyflymaf a mwyaf effeithlon i’r man yr ydych am fynd iddo, gan ddefnyddio ein cyfarwyddiadau ynghylch pa ffyrdd i’w cymryd a’n gwybodaeth ynghylch faint o amser y disgwylir i’r daith ei gymryd.

Fodd bynnag, gallwch weld y wybodaeth ganlynol hefyd erbyn hyn:

  • Y pellter teithio (ar y ffordd ac fel yr hed y frân)
  • Pa mor brysur y gallwch ddisgwyl i’r llwybr fod
  • Faint o garbon deuocsid y bydd eich taith ar y beic yn ei arbed
  • Faint o galorïau y byddwch yn eu llosgi ar y daith hon
  • A oes unrhyw gyffyrdd prysur ar y llwybr a allai achosi problemau
  • Faint o oleuadau traffig y byddwch yn dod ar eu traws
  • Beth yw uchder y tir ar hyd y llwybr
  • Faint o amser y disgwylir i’r daith ei gymryd

Bwriedir i’r wybodaeth hon fod yn berthnasol i deithiau pob dydd a llwybrau hamdden, yn hytrach nag i feicio cystadleuol neu feicio i’r goreuon. Ei nod hefyd yw ceisio sicrhau eich bod chi’n ymwybodol o sut lwybr yw’r llwybr beicio y byddwch chi’n ei ddewis, a beth yw’r manteision i’r amgylchedd ac i chi’n gorfforol.

Mae eich adborth chi’n werthfawr iawn i ni ac mae’n ein helpu i sicrhau ein bod yn darparu’r profiad gorau posibl i ddefnyddwyr. Felly cofiwch roi gwybod beth yw eich barn am y datblygiadau hyn!

A yw’n hawdd deall terminoleg y nodweddion newydd? A yw’r cynllun yn gweithio i chi? Beth ydych chi’n ei hoffi am y ‘Cynlluniwr Beicio’? Pa nodweddion eraill yr hoffech i ni eu darparu? Pa welliannau ddylai gael eu gwneud, yn eich barn chi?

Gallwch anfon neges e-bost atom ar feedback@traveline.cymru neu lenwi ffurflen adborth i leisio eich barn am nodweddion newydd y ‘Cynlluniwr Beicio’ (a’r nodweddion a oedd yn bodoli eisoes). Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen hon ar ein tudalen ‘Cysylltu â ni’.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon