Newyddion

TFW Logo

Dechrau cyfnod masnachfraint ‘Trafnidiaeth Cymru’

19 Hydref 2018

Beth sy’n digwydd?

Gan ddechrau ar 14 Hydref 2018, mae cwmni Trafnidiaeth Cymru bellach yn rheoli masnachfraint newydd ar gyfer rheilffyrdd, sy’n werth £5 biliwn. Mae Trafnidiaeth Cymru yn goruchwylio’r fasnachfraint hon ar ran Llywodraeth Cymru, a bydd y gwasanaethau newydd yn cael eu rhedeg gan y cwmni ar y cyd o Sbaen a Ffrainc, KeolisAmey. Bydd KeolisAmey yn darparu’r gwasanaethau a arferai gael eu rhedeg gan Trenau Arriva Cymru ac yn masnachu dan yr enw Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

 

Pa newidiadau fydd yn cael eu gwneud?

Mae’r fasnachfraint newydd hon yn newid mawr i drafnidiaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, disgwylir i lawer o’r newidiadau hyn gael eu cyflwyno’n raddol. Mae KeolisAmey wedi cael targedau mwy hirdymor i leihau achosion o drenau gorlawn a sicrhau gwasanaethau prydlon. Dyma ddau faes lle cafodd Trenau Arriva Cymru ei feirniadu gan deithwyr yn y gorffennol.

Yn ogystal, mae KeolisAmey wedi ymrwymo i ddarparu trenau newydd yn lle’r trenau presennol, trydaneiddio rheilffordd Cymoedd y De, ychwanegu gwasanaethau newydd, a lansio Metro newydd y De dros y 15 mlynedd nesaf.

Gall teithwyr ddisgwyl gweld rhai newidiadau’n fuan:

  • Mae disgwyl i’r gwasanaethau ychwanegol cyntaf ar ddydd Sul (yn y gogledd) a’r gwasanaethau cynnar ar ddiwrnodau’r wythnos (yn y de) gael eu cyflwyno ym mis Rhagfyr.
  • Bydd brand Trafnidiaeth Cymru yn ymddangos ar wisg y staff, mewn gorsafoedd ac ar rai o’r trenau. Mae’r wefan a’r ap newydd eisoes ar gael i gwsmeriaid.
  • Gan ddechrau ym mis Rhagfyr, bydd pob gorsaf yn cael eu glanhau’n drylwyr.

 

Tocyn teithio rhatach:

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

Os ydych wedi cael tocyn teithio rhatach gan awdurdod lleol yng Nghymru, gallwch deithio yn rhad ac am ddim ar lawer o drenau Trafnidiaeth Cymru.

Gallwch deithio ar y llwybrau canlynol:

Wrecsam – Pont Penarlâg.
Machynlleth – Pwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian) – mis Hydref i fis Mawrth yn unig.
Llandudno – Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy).
Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru) – mis Hydref i fis Mawrth yn unig.


Bydd angen i chi godi tocyn rhad ac am ddim o’r swyddfa docynnau cyn i chi deithio, neu gan gasglwr tocynnau ar y trên os na cheir swyddfa docynnau.

Bydd modd i chi hefyd gael tocynnau rhatach (gostyngiad o 1/3) ar rwydwaith Caerdydd a’r cymoedd ar ôl 9:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw adeg ar benwythnosau a gwyliau banc.

 

Mae gwefan Trafnidiaeth Cymru bellach wedi’i lansio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y drefn newydd, a phrynu tocynnau, ar y wefan hon.

 

Ffynhonnell wybodaeth: BBC Cymru 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon