Newyddion

Be Safe Be Seen

Traveline Cymru yn bartner i Nation Radio yn yr ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel’

02 Tachwedd 2018

Yn ystod mis Tachwedd bydd Traveline Cymru yn bartner i Nation Radio yn ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel’ yr orsaf radio. 

Mae’r clociau wedi’u troi yn ôl erbyn hyn, a chyn bo hir bydd plant yn cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol yn y tywyllwch. Yn ôl ystadegau diweddaraf y llywodraeth cafodd dros 5,000 o blant eu hanafu ar ein ffyrdd yn ystod 2017, a digwyddodd 36% o’r damweiniau hynny rhwng 3pm a 7pm. Drwy’r ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel’, mae Nation Radio a Traveline Cymru am helpu i leihau nifer y plant sy’n cael eu hanafu ar ein ffyrdd.

Yn rhan o’r ymgyrch, mae Nation Radio yn anfon sticeri llachar i ysgolion ar draws y de. Mae gan yr orsaf filoedd o sticeri llachar i’w rhoi ar fagiau ysgol, ac maent ar gael i athrawon a staff cynorthwyol eu dosbarthu i’w disgyblion. Mae ffurflen ar gyfer gwneud cais am y sticeri i’w gweld ar wefan Nation Radio. Bydd yr orsaf hefyd yn ymweld ag ysgolion ledled y de drwy gydol mis Tachwedd er mwyn dysgu disgyblion sut i gadw’n ddiogel ar eu ffordd yn ôl ac ymlaen i’r ysgol.

Byddwn yn cyhoeddi cyfres o negeseuon blog ar wefan Traveline Cymru, a fydd yn rhoi cyngor i chi a’ch plant ynghylch sut i gadw’n ddiogel wrth deithio ar y bws a’r trên neu wrth gerdded neu feicio gyda help ein gwasanaethau.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon