Newyddion

Cardiff Christmas Market

Caerdydd yn Nesáu at y Nadolig

12 Tachwedd 2018

Mae’r Nadolig yn dechrau yn swyddogol yng Nghaerdydd ddydd Iau 15 Tachwedd pan fo calendr gwerth chweil o hwyl a sbri yn dod i’n strydoedd gyda Nesáu at y Nadolig.  

Bydd yr ŵyl stryd unigryw hon yn trawsnewid canol y ddinas yn lu o gymeriadau Nadoligaidd, goleuadau, cerddoriaeth, goleuadau ac adloniant. Ymunwch â’r miri a gwylio perfformiadau gwir hudolus mewn amryw leoliadau trwy ganol y ddinas. Gyda’r nos hefyd, bydd siopa hwyr yn cychwyn a Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn agor gyda Llawr Sglefrio Admiral ar Lawnt Neuadd y Ddinas tan ddydd Sul 6 Ionawr 2018.

 

Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

  • Ben a Holly o Ben and Holly’s Magic Kingdom y tu allan i’r Hen Lyfrgell, dros y ffordd i Neuadd Dewis Sant ar brydiau.
  • Yr Ardal Nadoligaidd a’r Marchnadoedd Nadolig – Yr Aes
  • Ogof Siôn Corn – Heol y Frenhines
  • Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn agor â Llawr Sglefrio Admiral – Lawnt Neuadd y Ddinas
  • Siopa hwyr a chynigion arbennig yn y siopau.
  • Hefyd, bydd theatr stryd yn cynnwys perfformiadau gan The Dream Engine, Juggling Inferno a Bruce Airhead.

Bydd Bws Caerdydd yn cynnig tocyn teulu gyda gostyngiad o 3pm (dydd Iau 15 Tachwedd yn unig).  Anogir ymwelwyr i adael eu ceir gartref a theithio i ganol y ddinas am £5.30pm ym Mharth Caerdydd a Phenarth neu £7.50 ym mharth Caerdydd a’r Barri (mae telrau ac amodau yn berthnasol) ewch i cardiffbus.com/family-travel)

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae Caerdydd yn cyhoeddi cychwyn yr Ŵyl â Nesáu at y Nadolig, digwyddiad y mae’n werth ei weld i’r teulu oll. Mae’r digwyddiad hoff hwn yn ffefryn ar galendr y Nadolig ac mae’n nodi cychwyn y cyfnod cyn y Nadolig ym mhrifddinas Cymru.

 “Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn ddinas wych i ymweld â hi dros y Nadolig, i breswylwyr ac ymwelwyr. Mae siopa o’r safon orau, Marchnadoedd Nadolig, adloniant ac wrth gwrs Gŵyl y Gaeaf i gyd yn creu awyrgylch Nadoligaidd na fyddech am ei fethu.”

 

 

Marchnad Nadolig

O 15 Tachwedd – 23 Rhagfyr, bydd yr Ardal y Nadoligaidd yn cyrraedd Heol Sant Ioan, Working Street, Yr Aes, Heol y Drindod a Hills Street yn dod yn gartref i dros 80 stondin bren wedi eu haddurno’n hyfryd. Bydd dros 200 o artistiaid, crefftwyr a chynhyrchwyr bwyd ac alcohol talentog o Gymru gyfan yn gwerthu amrywiaeth o anrhegion megis llechen Gymreig, canhwyllau crefft, caws blasus, gwin ffrwythau a gwirodydd, fodca a gin â blas arbennig a gemwaith enamel, crochenwaith a chelf wreiddiol. Cewch rywbeth i bawb ar eich rhestr anrhegion Nadolig a mwynhau gwydraid o win poeth wrth i chi ymlwybro.

Yn newydd yn 2018, bydd canolfan siopa Capitol hefyd yn cynnal ystod o stondinau rhoddion a gweithgareddau. Caerdydd Greadigol fydd yn cynnal hwn a chaiff siopwyr fwynhau ystod o stondinau wrth ddylunio a gwneud eu peli addurn eu hunain, paentio crochenwaith a rhoddion eraill, hyn oll i gyfeiliant côr Nadoligaidd. Am fwy o wybodaeth ewch i https://www.facebook.com/cardiffcreativeshop

 

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd

Mae gan y llawr iâ enw eang fel un o loriau sglefrio gorau Ewrop a bydd yn dychwelyd eleni â llawer mwy nag o’r blaen dan nenfwd serog a fydd yn golygu y gallwch sglefrio waeth sut mae’r tywydd. Mwynhewch olygfeydd ar y ddinas a’r tu hwnt o’r Tŵr Mawr, atyniad newydd ar gyfer 2018, a aiff â'ch gwynt wrth syrthio 90m o’r wybren; cewch eich gwala yn Sur La Piste, bar deulawr â lle i 400 o bobl a fydd yn mwynhau hwyl yr ŵyl gyda seddau fel gondolas. Caiff ymwelwyr hefyd fwynhau’r Caffi Alpaidd a’r Bier Keller clyd, atmosfferig.

Mae gan Gaerdydd Achrediad Mynediad, sy’n galluogi mwy o ddefnyddwyr cadair olwyn nag erioed i ddefnyddio’r llawr sglefrio.

 

Nadolig yn y Castell

Bydd prif atyniad ymwelwyr Caerdydd yn cynnig hwyl yr ŵyl trwy gydol mis Rhagfyr. Caiff ymwelwyr ddisgwyl gweld Siôn Corn, amgylchoedd anhygoel, addurniadau arbennig, gwleddoedd godidog ac adloniant ardderchog. Ewch i weld y goeden Nadolig, sydd wedi ei noddi’n garedig gan Sayers Amusements ac a fydd yn hawlio ei lle y tu allan i gatiau’r castell wrth geirw hardd yn rhoi tipyn o dincl i’r tirnod eiconig.
Tocynnau a gwybodaeth bellach: https://www.castellcaerdydd.com

Mae’n werth mynd i Farchnad Ganolog Caerdydd, lle gwych i gael blas ar y ddinas, i gyd dan un to. Mae’r adeilad mawreddog o Oes Fictoria’n cynnig profiad siopa unigryw yng nghalon dinas fodern, brysur a chewch yno lu o gynnyrch o fara a chacennau cri ffres, blodau a recordiau, losin a deunydd adeiladu i nwyddau anifeiliaid anwes a physgod ffres. Mae Marchnad Caerdydd yn masnachu ar rhyw ffurf neu’i gilydd er cychwyn y ddeunawfed ganrif. Mae yn yr un safle ers dros ganrif ac er na chewch chi dda byw ynghlwm y tu allan i’w drysau bellach, mae rhai o’r hen nodweddion yn dal i fod yno heddiw.

 

Ogof Siôn Corn

Ar 15 Tachwedd, rydym yn croesawu Siôn Corn yn ei stondin bren hyfryd ar Heol y Frenhines. Dewch i glywed Rwdolff yn canu a dymuno Nadolig Llawen i Siôn a’i gorachod a fydd yn dod â hud a lledrith i Nadolig unrhyw blentyn. 

 

 

Theatr

Pan fyddwch chi wedi cael llond bol ar yr holl siopa, beth am gymryd hoe i fwynhau un o’n sioeau tymhorol. Eleni, bydd Beauty and the Beast yn y Theatr Newydd hanesyddol. Bydd Lisa Riley, Gareth Thomas, Ben Richards, Mike Doyle, Danny Bayne, Adam C Booth a Stephanie Webber yn dod â phantomeim gorau Cymru’n fyw gyda digon o gomedi a cherddoriaeth, dawnsfeydd trawiadol, gwisgoedd gwych a dodrefn llwyfan arbennig. Disgwyliwch lond trol o chwerthin ac adloniant o safon i’r teulu oll pan fyddwn yn ymuno â Belle ar ei hantur hudolus. A welith hi’n ddyfnach na’r bwystfil a syrthio mewn cariad â’i charcharor cyn i betal olaf y rhosyn hud syrthio?

 

Bydd Neuadd Dewi Sant yn arddangos pedair Bale'r Nadolig rhwng 19 a 31 Rhagfyr.

Bydd y tymor trawiadol hwn gan Fale Gwlad Rwsia a Cherddorfa Siberia yn cychwyn â’r Forwyn Eira (19 – 20 Rhagfyr). Wedi ei chadw rhag y byd tu allan gan y Gŵr Iâ, mae’r Forwyn Eira yn chwarae’n diniwed braf ymysg y plu eira sionc yng Ngwlad Hud yr Iâ. Yna byddwch barod am eich hebrwng i le dirgel lle nad yw unrhyw beth fel yr ymddengys yn Y Torrwr Cnau (21-24 Rhagfyr). Gwyliwch yn syn pan ddaw teganau’n fyw a Brenin y Llygod twyllodrus yn brwydro’r Tywysog Torrwr Cnau hardd.

Yna daw’r bale mwyaf rhamantus erioed Llyn yr Alarch (27-31 Rhagfyr) i gyfeiliant bythgofiadwy Tchaikovsky. O fawredd ystafell ddawns y palas i’r llynnoedd dan olau’r lleuad, mae popeth yn yr hanes rhamant drasig a deniadol hwn.

Daw’r gyfres i uchafbwynt gyda hoff stori’r byd am y truan yn trechu: Ulwela

 (30 – 31 Rhagfyr). Mae'r sioe hon yn gyfuniad o gerddoriaeth fywiog Prokofiev, coreograffeg sionc a gwisgoedd lliwgar.

 

Bydd Canolfan Mileniwm Cymru’n croesawu Matilda The Musical (4 Rhagfyr - 12 Ionawr).

Mae 7 miliwn o bobl eisoes wedi ei gweld ac mae hi wedi ennill dros 85 gwobr ryngwladol, dyma sioe gerdd benigamp y Royal Shakespeare Company, a ysbrydolwyd gan y llyfr gan yr awdur heb ei ail o Gaerdydd, Roald Dahl. Hanes geneth hynod ydy Matilda The Musical, sydd, diolch i’w dychymyg byw a’i meddwl miniog, yn benderfynol o newid ei ffawd, hyd yn oed os oes rhaid bod ychydig yn ddireidus.

 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.croesocaerdydd.com.

@CroesoCaerdydd

 

 

Cardiff Council Press Officer Danni Janssens Tel: 029 20872965

Email: danni.janssens@cardiff.gov.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon